Tashkent
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas Uzbekistan yw Tashkent (Wsbeceg: Toshkent; Rwseg: Ташкент). Saif ar afon Chirchik yn agos ar y ffîn a Kazakhstan a Tajikistan. Roedd y boblogaeth yn 1989 yn 2,060,206.
Ar un adeg, roedd Tashkent yn arosfan bwysig ar hyd Ffordd y Sidan, y rhwydwaith o lwybrau masnach rhwng Tsieina a'r Dwyrain Canol. Dinistriwyd llawer o'i hadeiladau hanesyddol yn ystod y Chwyldro yn 1917 ac yn y daeargryn yn 1966.
[golygu] Adeiladau
- Amgueddfa Amir Timur
- Chorsu Bazaar
- Kukeldash Madrassa
- Mosg Telyashayakh
- Palas y Tywysog Romanov
- Tŵr Tashkent
- Yunus Khan Mausoleum
[golygu] Pobl o Dashkent
- Igor Kufayev (g. 1966), arlunydd
- Mark Weil (1952-2007), cyfarwyddwr theatr
- Nurilla Zakirov (1942-2003), cyfansoddwr