Oes Ganol y Cerrig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig diweddar  
    Paleolithig canol
    Paleolithig cynnar
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Oes Ganol y Cerrig neu'r Mesolithig yw'r cyfnod yn Oes y Cerrig sy'n gorwedd rhwng Hen Oes y Cerrig ac Oes Newydd y Cerrig. Fel rheol cyfyngir y defnydd o'r term i gynhanes gogledd a gorllewin Ewrop; yma mae'r oes neolithig yn cychwyn gyda chyfnod o hinsawdd cynnes yr Holosen tua 11,660 CP ac yn diweddu gyda dyfodiad ffermio - tua 4,000 CP. Yn Oes Ganol y Cerrig newidiwyd llawer o'r tirwedd gan yr heliwr-gasglwr gan, er enghraifft glirio coed. Roedd y dyn yma'n medru cynnau tân a defnyddio offer carreg, pren ac asgwrn fwy cywrain na chynt (e.e. microlithau) ac yn bennaf yn medru cyfathrebu a'i gilydd.

Cymru[golygu]

Prif erthygl: Oes Ganol y Cerrig yng Nghymru

Mae'r dystiolaeth cyntaf o fywyd yn yr oes hon yng Nghymru i'w chanfod yn Nab's Head ym Mhenfro sy'n dyddio'n ôl i 9,200 CP.[1] wedi 10,000 CP cynhesodd yr hinsawdd gryn dipyn a gwelwyd lawer o goed bedw, meryw (juniper) a phinwydd; ceir tystiolaeth fod y gollen yn ymddangos ym Mhrydain tua 8,200 CP. Eryn 4,500 CP tyfai'r dderwen, llwyfen, y wernen a'r onnen.

Tua 7,000 o fewn cyfnod o 200 mlynedd cododd lefel y môr 7 metr, gan foddi llawer o'r tiroedd gwastad, a llawer o dystiolaeth o fywyd, gan gynnwys Bae Ceredigion ac i'r gogledd o Rhyl. Roedd y tymeredd, bellach, yn gynhesach ac yn wlypach; mae'r ffaith fod cynifer o goed gwern yma'n dystiolaeth o hyn.

Bwyell law; Amgueddfa Wrecsam

Yng Ngogledd Cymru ceir nifer o olion o'r cyfnod hwn gan gynnwys: matog carw 38 cm o hyd a ganfyddwyd yn Splash Point, y Rhyl ac a garbon-ddyddiwyd i 7,000 CP. O bwys hefyd y mae'r ddau ficrolith (13mm) a ganfyddwyd yn Ogof y Lyncs, Eryrys a safleoedd megis Llyn Aled Isaf a Llyn Brenig, Moel Arthur a Phrestatyn.

Safleoedd Mesolithig[golygu]

Mae rhai o'r safleoedd Mesolithig mwyaf nodedid yn cynnwys:

Claddu o Theviec - Amgueddfa o Toulouse[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Windgather Press; 2004; tud. 27