Dylunio

Oddi ar Wicipedia

Caiff dylunio, ei ystyried fel arfer yn arlunio, peirianneg, pensaernïaeth, ac ym meysydd creadigol eraill. Yn y broses o ddylunio, mae dylunydd fel arfer yn ystyried agweddau estheteg, gweithrediad, a nifer o elfennau eraill sy'n gofyn am ymchwil, meddwl, modelu, addasu, ac ail-ddylunio helaeth.

Athroniaeth dylunio[golygu | golygu cod]

Gall astudio natur ac effaith dylunio fod yn ddi-ddal. Does dim iaith dylunio unedig na chorff unedig o ddylunwyr o bob disgyblaeth. Gall llwyddiant achosi disgwyliadau uwch fel ym mhob maes, ond yn nylunio yn arbennig does dim modd o fesur y llwyddiant.

Mae nifer fawr o athroniaethau sy'n tywys dylunio a gwerthoedd dylunio, gan fod agweddau gwahanol ar gyfer pob elfen o ddylunio, ac ar gyfer pob ffordd o feddwl a phob dylunydd unigol.[1] Defnyddir athroniaeth dylunio ar gyfer penderfynu targedau. Gall targed dylunio fod yn rhywbeth megis datrys problemau unigol pwysig yr elfen lleiaf, hyd at targedau dylanwadol, hynod o holistig a delfrydol. Defnyddir targedau fel arfer er mwyn tywys dylunio, er gall hyn gwrth-ddweud y targedau syml, ac arwain at gwestiynu pwrpas y dylunio. Dros amser hir, fe all hyn wella safon y dylunio.

Y Broses Ddylunio[golygu | golygu cod]

Gall rhannau o'r broses o ddylunio gynnwys yr elfennau canlynol:

  • Dylunio Cyn-cynhyrchu
    • Briff dylunio - datganiad o dargedau'r dylunio: amlinelliad o'r broblem ac ar bwy y mae'n effeithio; yr angen sy'n codi o'r broblem; yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn (dylunio a gwneud); sut y bydd y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio; a'r amgylchedd y bydd yn cael ei ddefnyddio ynddo.
    • Dadansoddiad - Dadansoddi targedau'r dylunio presennol. Er enghraifft, esboniwch pam y gallai fod angen am gynnyrch newydd: mae problemau gyda chynnyrch sy'n bod eisoes; gallai perfformiad dyluniad sy'n bod eisoes gael ei wella; neu mae bwlch yn y farchnad ac mae'r dylunydd yn dymuno ei lenwi.
    • Ymchwil - Ymchwilio'r atebion dylunio yn y maes ac mewn meysydd eraill â thargedau tebyg. Gall ymchwil helpu'r broses ddylunio drwy wirio bod pobl yn wir eisiau'r cynnyrch; darganfod beth sy'n gwneud cynnyrch sy'n bod eisoes yn dda neu'n wael; a darganfod y defnyddiau, y cydrannau a weithgynhyrchwyd ymlaen llaw, y technegau a'r cynhwysion y gallwch eu defnyddio, a sut y byddant yn effeithio ar y gweithgynhyrchu a'r costau gwerthu. Er enghraifft, gall holiadur alluogi'r dylunydd i nodi ei grŵp targed a darganfod tueddiadau'r farchnad. Gellir yna lunio dadansoddiad ymchwil, sef casgliadau ar sail yr ymchwil.
    • Manyleb ddylunio - Penodi anghenion yr ateb dyluniadol. Mae'r fanyleb ddylunio yn disgrifio cyfyngiadau a phosibiliadau'r cynnyrch. Mae'n rhoi amodau y bydd yn rhaid i'r cynnyrch eu cyflawni. Mewn achos cynnyrch materol yn enwedig, gallai rhai pwyntiau mewn manyleb ddylunio fod yn anodd eu hasesu drwy edrych ar y cynnyrch yn unig oherwydd bydd angen cael rhywun i brofi'r cynnyrch neu ei fodelu ar ôl iddo gael ei wneud a darparu adborth, er enghraifft os oes yn rhaid i'r cynnyrch deimlo'n gysurus yn y llaw.
    • Datrys problemau - Syniadoli a dogfennu'r atebion dyluniadol. Ymhlith yr amryw dechnegau o ddechrau'r cam hwn mae creu bwrdd ysbrydoli, tanio syniadau, neu rannu'r dasg yn rhannau llai, er enghraifft dylunio estheteg y cynnyrch ac yna edrych ar y dechnoleg berthnasol.
    • Cyflwyniad - Cyflwyno'r atebion dyluniadol, gan gynnwys darluniadau gydag anodiadau a sylwadau. Dylai'r dylunydd gynnwys gwybodaeth megis defnyddiau, maint, defnyddiwr, siâp, cost, manteision ac anfanteision, dull cynhyrchu, a swyddogaethau. Gellir cyflwyno'r dyluniadau mewn nifer o ddulliau a thechnegau, megis braslun llawrydd, tafluniad isomedrig, neu dafluniad orthograffig.
  • Dylunio yn ystod Cynhyrchu
    • Datblygu - parhad a gwellhad o'r ateb dyluniadol, yn aml drwy greu rhagor o frasluniau, cyfuno syniadau, ac adolygu ac ail-lunio'r syniadau.
    • Profi - Profi'r ateb dyluniadol, a'i fodelu os oes angen. Pwrpas y cam hwn yw i roi cynnig ar wahanol agweddau ar y dyluniad ac i sicrhau beth yw'r agweddau gorau.
  • Dylunio ar ôl Cynhyrchu ac ymatebion ar gyfer dyluniadau'r dyfodol
  • Ail-ddylunio - Ail-adrodd unrhyw elfen o'r broses uchod, gyda chywiriadau, ar unrhyw adeg yn ystod, neu ar ôl cynhyrchu.

Diffinio dylunio[golygu | golygu cod]

Ystyrir ddylunio'n aml yn ffurf fwy llym o Arlunio, neu yn Arlunio gyda phwrpas penodedig. Gwelir y gwahaniaethu yn bennaf pan mai rhywun heblaw'r arlunydd sy'n penderfynu'r pwrpas. Mewn Graffeg, gwelir y gwahaniaethu yn aml rhwng Celf gain a Chelf masnachol.

Ystyrir peiriannu'n aml yn ffurf fwy llym o ddylunio. Gellid dadlau fod peiriannu a dylunio yn rhan o'r un broses neu dim ond yn rhannu elfennau, gan ddibynnu ar ddisgyblaeth y dylunio. Mae'r ddau yn ffurf o ddatrys problemau, gyda'r diffiniad rhwng y ddau yn bodoli yn y defnydd o sylfaeni gwyddonol a mathemategol mewn peiriannu. Gall faint o wyddoniaeth a dylunio a ddefnyddir gwestiynu os yw'r broses yn un o beirianneg neu wyddoniaeth; o fath cymdeithasol neu naturiol.

Mae'r berthynas rhwng dylunio a chynhyrchu yn un o gynllunio a gweithredu. Mewn damcan dylai'r cynllun ragweld a iawndalu unrhyw broblemau a godai yn ystod y broses. Mae dylunio yn cynnwys bod yn greadigol a datrys problemau, mae cynhyrchu ar y llaw arall, yn broses a gynllunwyd o flaen llaw. Mae peirianwyr a chynhyrchwyr fel arfer yn gweithio tuag at creu cynllun y dylunwyr, er mae disgwyl i ddylunwyr gael syniad da o weithrediad y broses o beiriannu a chynhyrchu, iddynt allu dylunio yn fwy effeithlon.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Disgyblaethau dylunio[golygu | golygu cod]

Gall sawl o'r rest hefyd eu cysidro yn Ddylunio Masnachol.

Cymhwysiad

Cyfarthrebu

Corfforol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Holm, Ivar (2006). Ideas and Beliefs in Architecture and Industrial design: How attitudes, orientations and underlying assumptions shape the built environment. Oslo School of Architecture and Design. ISBN 8254701741.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]