Dodrefn
Oddi ar Wicipedia
Taclau neu gelfi at wasanaeth tŷ yw dodrefn. Pethau symudol ydynt, sy'n cwrdd ag anghenion dynol megis cadeiriau er mwyn eistedd a gwelyau er mwyn cysgu, neu sydd o gymorth i bobl yn eu gweithgareddau yn y tŷ, er enghraifft i storio neu ddal pethau fel offer cegin neu ddillad. Mae'r term yn cynnwys dodrefn addurnol o bob math, sef unrhyw daclau neu gelfi sy'n rhoi pleser o'u gweld.
Mathau o ddodrefn cyffredin [golygu]
- Bwrdd
- Cabinet
- Cadair
- Cist dillad
- Cwpwrdd
- Desg
- Dresar
- Gwely
- Mainc
- Matiau a rygiau
- Silffoedd, e.e. silff lyfrau
- Soffa
- Wardrôb
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Saesneg) Illustrated History Of Furniture, clasur o lyfr ar y pwnc ar wefan Prosiect Gutenberg