Bwrdd
Oddi ar Wicipedia
Darn o ddodrefn yw bwrdd, gyda gwyneb agored gwastad wedi ei ddal gan goesau. Gall ei ddefnyddio er mwyn dal bwyd neu bapurau ar lefel sy'n gyfleus neu'n gyfforddus i'w chyrraedd tra'n eistedd, felly defnyddir bwrdd ynghyd â chadair fel rheol. Roedd gan y rhanfwyaf o fyrddau cynnar ddroriau odan y bwrdd, mae rhain yn llai cyffredin erbyn hyn. Gelwir bwrdd sydd wedi ei chynllunio yn arbennig ar gyfer ysgrifennu neu waith swyddfa yn ddesg, a gall rhain gynnwys set o ddroriau sy'n cynnal y bwrdd yn hytrach na choesau. Mae gan rhai byrddau adrannau ychwanegol er mwyn ymestyn y bwrdd pan fydd angen, gelwir yr adrannau rhain yn ddalenni. Mae byrddau yn cael eu cynhyrchu allan o nifer o ddeunyddiau megis pren, cardfwrdd, plastig, metel neu wydr.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: