Pren

Oddi ar Wicipedia
Arwynebedd darn o bren, sy'n arddangos nifer o nodweddion
Tas o goed pren

Defnydd organig yw pren: yn yr ystyr mwyaf cyfyng, cynhyrchir pren fel sylem eilradd ym monion coed (a phlanhigion prenaidd eraill). Mewn coeden fyw, trosglwyddir dŵr a maetholion eraill i'r dail a meinweoedd eraill sy'n tyfu, gan alluogi planhigion prenaidd i gyrraedd maint mawr ac i allu sefyll i fyny ar eu pennau eu hunain.

Am filoedd o flynyddoedd, defnyddiwyd pren at sawl pwrpas, yn bennaf fel tanwydd neu fel defnydd adeiladu er mwyn creu tai, offer, arfau, dodrefn, pacio, celf a phapur.

Gellir dyddio pren drwy ddyddio carbon a chyda rhai rhywiogaethau, gellir defnyddio dendrocronoleg er mwyn darganfod pryd y crëwyd gwrthrych.

Cerflun pren o'r dduwies Gwener. Tua 1600, Antwerp.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am pren
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddefnydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.