Arf

Oddi ar Wicipedia
Arf
Enghraifft o'r canlynolweapon functional class Edit this on Wikidata
Mathtool, adult product Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arf yw unrhyw beth sydd wedi ei wneud i ladd neu niweidio person neu anifail. Gellir defnyddio pethau nad ydynt wedi eu gwneud i'r pwrpas fel arf hefyd. Maent yn cael eu defnyddio yn erbyn personau mewn rhyfel ac yn erbyn anifeiliaid wrth hela.

Cofnodwyd defnydd o arfau syml gan tsimpansîaid, sydd wedi eu gweld yn eu defnyddio ar gyfer hela. Yr arfau dynol cynharaf i'w darganfod hyd yma yw wyth gwyawffon bren o'r Almaen, sy'n dyddio i tua 400,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd yr arfau cynharaf o bren neu garreg, ond gyda chynnydd technolegol daethpwyd i'w gwneud o efydd ac yna o haearn. Tua diwedd yr Oesau Canol, cyrhaeddodd powdwr gwn i Ewrop o Tsieina, a datblygwyd arfau tân, yn enwedig y gwn. Nid oedd y gynnau cynnar yn effeithiol iawn, ond gyda datblygiad y dechnoleg, cymerodd gynnau o wahanol fathau le arfau megis y cleddyf a'r bwa.

Pan ddyfeisiwyd yr awyren yn gynnar yn yr 20g, datblygodd y defnydd o arfau eraill, megis bomiau a ollyngir o'r awyr. Tua'r un cyfnod, datblygodd y defnydd o nwy gwenwynig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a welodd hefyd ddatblygiad y tanc. Gwelodd yr Ail Ryfel Byd y defnydd cyntaf o arf niwclear.

Mathau o arf[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am arf
yn Wiciadur.