Balista

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
BallistaRO.jpg
Ballista.jpg

Math o arf militaraidd i hyrddio cerrig neu folltau pren yw'r balista. Fe defnyddiwyd yn gyntaf gan y Groegiaid. Mewn un adroddiad o'r 9ed ganrif, fe gofnodir i bump dyn gael eu lladd gan un bollt. Roedd y bolltau'n mesur tuag 1.5 metr a gallent drafaelio dros 135 metr. Daw'r gair o'r Groeg βαλλίστρα - ballistra, sef 'taflu'. fe'i defnyddiwyd yn aml mewn cyrch ar gastell. Dros y blynyddoedd fe'i datblygwyd yn fersiwn llai o'r enw sgorio (sef math o fwa croes).