Bwyell

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bwyellwr modern mewn cystadleuath torri coed yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd Avilés, Asturias yn Sbaen.

Arf i dorri coed fel arfer ydy bwyell. Mae'n arf hynafol iawn ac fe'i gwnaed yn gyntaf allan o garreg ac yna o gopr, efydd, haearn ac erbyn heddiw, i gryfhau'r fwyell caiff ei wneud allan o ddur gyda choesyn o bren neu ddefnydd synthetig.

Bwyell law o Oes yr Iâ.

Mae gan y fwyell ddwy ran, fel arfer: handlen bren er mwyn ei gydio a llafn, sef y darn metel, sy'n hollti'r pren i'r naill ochor a'r llall. Ceir tim o fwyellwyr o ardal Gwynedd o'r enw "Bwyellwyr Gwynedd".

Cyfeiriadau llenyddol[golygu]

Canodd Alan Llwyd englyn:
I fwyellu'r afallen - daeth ellyll
Gyda thwyll a chynnen,
Eilliodd ym môn briallen
A dileu fy nghenedl hen.
('Awdl i'r Hil Wen'; Eisteddfod Rhuthun 1976)
Tools.svg Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.