Alan Llwyd
Oddi ar Wicipedia
Bardd, awdur a sgriptiwr ffilmiau yw Alan Llwyd (ganwyd Alan Lloyd Roberts, 1948).
Fe'i ganwyd yn Nolgellau, Gwynedd a'i fagu ar fferm yn Nghilan. Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ac mae wedi chynnal siop lyfrau yn y Bala yn ogystal â gweithio i gwmni cyhoeddi Christopher Davies a CBAC.
Enillodd y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973, ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976.
Mae'n awdur toreithiog, gyda sawl cyfrol o farddoniaeth a beirniadaeth wedi eu cyhoeddi yn cynnwys cofiannau Hedd Wyn a Goronwy Owen. Ysgrifennodd y sgript am y ffilm Hedd Wyn (1992). Yn ddiweddar fe olygodd Cymru ddu, hanes pobl du Cymreig.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Anghenion y Gynghanedd (1973; argraffiad newydd 2007)
- Gwyfyn y Gaeaf (1975)
- Rhwng Pen Llŷn a Phenllyn (1976)
- Yn Nydd yr Anghenfil (1982)
- Yn y Dirfawr Wag (1989)
- Sonedau I Janice a Cherddi Eraill (1996)
- Grefft O Greu (1997)
- Gronwy Ddiafael, Gronwy Ddu (2007). Cofiant Goronwy Owen.
- Ffarwelio â Chanrif (2000)
- Clirio'r Atig a Cherddi Eraill (2005)