Powdwr gwn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Math diweddar o bowdwr du

Math o ffrwydryn yw powdwr gwn (hefyd powdwr du). Fe'i gwneir trwy gyfuno sylffwr, golosg a potasiwm nitrad, ac fe'i defnyddir yn awr yn bennaf mewn gynnau ac mewn tân gwyllt.

Ystyrir powdwr gwn yn ffrwydryn isel, gan fod yr egni o'r ffrwydrad yn cael ei ryddhau'n gymarol araf. Fel rheol, mae'n cynnwys 75% o botasiwm nitrad, 15% o olosg a 10% o sylffwr. Y farn gyffredinol yw i bowdwr gwn gael ei ddarganfod yn China tua'r 9fed ganrif; ceir y cyfeiriad cyntaf ato mewn testun Taoaidd o tua chanol y ganrif honno. Ceir y cyfarwyddiadau cynharaf sut i'w wneud mewn testun milwrol o China yn dyddio o 1044. Nid yw'r gred gyffredinol mai dim ond mewn tân gwyllt y defnyddid powdwr gwn yn China yn gywir; fe'i defnyddid i bwrpasau milwrol hefyd. Mae'r gwn cynharaf sydd wedi goroesi yn dod o China ac yn dyddio o'r 13eg ganrif. Lledaenodd y wybodaeth am bowdwr gwn i'r byd Islamaidd tua'r un adeg. Cofnodir i'r Eifftiaid defnyddio powdwr gwn yn erbyn y Mongoliaid ym Mrwydr Ain Jalut yn 1260, ac eto yn 1304. Yn 1453, roedd gan fyddin Mehmed II wn enfawr oedd yn medru saethu meini 680 kg o bwysau. Defnyddiwd y gwn i falurio muriau Caergystennin a chipio'r ddinas, gan roi diwedd ar yr Ymerodraeth Fysantaidd.