Ffrwydryn

Oddi ar Wicipedia

Ffrwydryn yw unrhyw ddeunydd sy'n ansefydlog o ran ynni, un ai'n gemegol neu fel arall. Oherwydd hyn gall y deunydd gynhyrchu ffrwydrad, pan ryddheir yr ynni mewn amser byr, efallai ganran fychan o eiliad. Ffrwydron cemegol yw'r math mwyaf cyffredin, ond ceir mathau eraill, er enghraifft arfau niwclar.

Gellir rhannu ffrwydron yn ffrwydrynnau isel, megis powdwr gwn, lle rhyddheir yr ynni yn gymharol araf, a ffrwydron uchel, lle caiff yr ynni ei ryddhau yn gyflym iawn. Defnyddir y rhain mewn mwyngloddio ac i bwrpad rhyfel. Ymhlith y mathau mwyaf adnabyddus mae deinameit a TNT.

Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.