Gwener (duwies)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwener yn ymolchi gan Titian (tua 1525)

Gwener (o'r Lladin Veneris, "yn perthyn i Venus") yw'r ffurf Gymraeg o'r enw "Venus", a oedd yn dduwies serch a phrydferthwch mytholeg Rhufeinig. Rhoddodd ei henw i Gwener, yr ail blaned oddi wrth yr Haul, ac enwyd diwrnod o'r wythnos ar ei hôl, Veneris dies, a ddaeth i'r Gymraeg fel Dydd Gwener. Mae'r dduwies, fel llawer o dduwiau Rhufain, yn tarddu o fytholeg Groeg, lle yr oedd yn ymddangos dan yr enw Aphrodite.

Yn ôl fersiynau gwahanol o'r chwedl cafodd Gwener ei geni yn y môr ger naill ai Cyprus neu ynys Cythera. Caiff Gwener ei phortreadu'n aml gan y chwedlau fel cymeriad balch a byr ei thymer. Roedd yn anffyddlon yn gyson i'w gŵr Fwlcan (Hephaestos) a chafodd berthnas gyda Mawrth, duw rhyfela, Adonis ac Anchises (yn ddiweddarach, byddai'n cenhedlu'r arwr Aeneas gyda'r dyn meidrol hwn). Roedd Gwener hefyd yn fab i Cupid, duw serch. Yn yr Iliad, Gwener oedd yn rhannol gyfrifol am Ryfel Caerdroea hefyd am iddi gynnig Elen o Gaerdroea yn wraig i Baris.

Yn Rhufain, roedd teulu'r Julii yn haeru eu bod yn ddisgynyddion i'r dduwies Gwener, trwy Aeneas. Cyflwynodd yr enwocaf o'r teulu yma, Iŵl Cesar, gwlt Venus Genetrix, fersiwn mamol a theuluol o'r dduwies. Un o'r duwiesau tebyg iddi mewn chwdloniaeth Geltaidd oedd Modron.

Gwener mewn celf[golygu]

  • Venus de Milo [1], cerflun hynafol a ddarganfuwyd ar ynys Melos (neu Milo) a oedd yn dangos Gwener yn dal yr afal aur a'i roddwyd iddi gan Paris. Mae'r cerflun eisioes wedi colli ei breichiau.
  • Genedigaeth Gwener gan Sandro Botticelli [2]. Yn y ddelwedd enwog hon o'r Dadeni Dysg, dangosir Gwener yn glanio ar lannau Cyprus am y tro cyntaf, wedi'i chludo gan gregyn yn arnofio ar y dŵr a'r gwyntoedd.

Gweler hefyd[golygu]

  • Mwnt Gwener: rhan o'r corff benywaidd a anwyd ar ei hôl.