Cadair (dodrefn)

Oddi ar Wicipedia
Cadair

Dodrefnyn i un person eistedd arno ydy cadair: sedd wedi ei godi o'r llawr. "Stôl" ydy'r term am gadair fechan di-gefn. Yn draddodiadol, mae gan y gadair bedair coes a chefn, er bod gan rhai stolion dair coes yn unig ee stôl odro. Pren oedd ei gwneuthuriad hi am flynyddoedd, er bod ambell i orsedd brenhinol wedi'i gwneud allan o ddefnydd crandiach megis carreg neu farmor. Erbyn heddiw, ceir cadeiriau allan o bob defnydd dan haul, gan gynnwys plastig, metel a lledr.

Gall cadair gael breichiau, (cadair freichiau) ond does dim rhaid. Mae uchter cadair o'r llawr tua'r un faint a hŷd coes dyn o'r droed i'r ben-glin. Ond ceir cadeiriau talach, megis cadair fabi, sy'n caniatau i'r babi fod ar yr un lefel â'r oedolyn sy'n ei fwydo. Ceir hefyd stolion tafarn, sy'n caniatau i berson fod cyfuwch â'r bâr, er mwyn yfed ei ddiod. Mae rhai mathau o gadeiriau wedi eu gosod yn barhaol y yr un lle, ac yn aml yn codi er mwyn i rywun basio heibio ee seddi ar awyren neu mewn pictsiws.

Pan fo cadair ar gyfer mwy nag un person, fe'i gelwir hi'n "fainc".

Mae'n draddodiad yng Nghymru fod prif wobr yr eisteddfod, sef cadair, yn cael ei roi am ddarn o farddoniaeth. Mae'r gair cadair yn Gymraeg hefyd yn golygu mynydd ee Cadair Idris.

Delweddau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]