Jamie Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jamie Roberts
Enw llawn Dr. Jamie Huw Roberts
Dyddiad geni (1986-11-08) 8 Tachwedd 1986 (37 oed)
Man geni Casnewydd, Cymru
Taldra 1.93 m
Pwysau 110 kg
Prifysgol Prifysgol Caerdydd
Gwaith Chwaraewr rygbi'r undeb, Meddyg

Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymro yw Jamie Roberts (ganed 8 Tachwedd 1986). Roedd yn chwarae fel canolwr fel arfer, ond gall hefyd chwarae fel cefnwr ac asgellwr.

Ganed ef yng Nghasnewydd, ac addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Yn 2013, graddiodd Jamie Roberts mewn meddygaeth o Brifysgol Caerdydd[1].

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru fel asgellwr yn erbyn yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm ar 9 Chwefror 2008. Yn ddiweddarach, symudwyd ef i chwarae fel canolwr, ac yn y safle yma dyfarnwyd ef yn chwaraewr gorau'r gêm rhwng Cymru a'r Alban ar 8 Chwefror 2009. Enillodd 94 o gapiau dros Gymru rhwng 2008 a 2017 a 3 dros Y Llewod ar eu teithiau yn 2009 a 2013.

O 2005 ymlaen, chwaraeodd Roberts dros Glwb Rygbi Caerdydd, Gleision Caerdydd, Racing Métro, Prifysgol Caergrawnt, Harlequins, Caerfaddon, y Stormers a'r Dreigiau a'r Waratahs yn Awstralia. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi proffesiynol yn Gorffennaf 2022.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Cyfweliad arbennig gyda Jamie Roberts. BBC (29 Hydref 2013). Adalwyd ar 29 Awst 2015.
  2. Canolwr Cymru Jamie Roberts yn ymddeol o rygbi proffesiynol , BBC Cymru Fyw, 12 Gorffennaf 2022.