Coleg Glan Hafren
| Coleg Glan Hafren | |
|---|---|
| Sefydlwyd | 1989 |
| Math | Coleg addysg bellach |
| Cadeirydd | Jacquie Turnbull |
| Llywydd | Rob Larkins |
| Staff | 500 |
| Myfyrwyr | 12,000 |
| Lleoliad | Caerdydd, |
| Campws | Trowbridge Road, Tredelerch The Parade, canol Caerdydd |
![]() |
|
| Gwefan | http://www.glan-hafren.ac.uk/ |
Coleg addysg bellach yng Nghaerdydd, Cymru yw Coleg Glan Hafren. Mae dros 12,000 o fyfyrwyr yn mynychu'r coleg. Darparir dros 800 o gyrsiau gan gynnwys Lefelau-A, cyfle i fyfyrwyr ail-eistedd TGAU; cyrsiau ieithoedd, cyrsiau busnes a phroffesiynol megis cyfraith, marchnata, cyfrifedd, gwallt a harddwch, cyrchu; ESOL a Drws Agored; chwaraeon, arlwyo, gofal plant, teithio a thwristiaeth; cyrsiau ccreadigol a digidol, periannu ac adeiladu. Mae'n gwasanaethu myfyrwyr o 14 oed ymlaen, mae myfyriwr hynaf y coleg yn 80 oed. Mae cyrisau hefyd ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, odan yr enw Coleg Ryngwladol Caerdydd, odan achrededig y Cyngor Prydeinig.
Mae gan y coleg ddau gampws ar bedwar safle. Lleolir un ar Trowbridge Road, Tredelerch yn nwyrain y ddinas, a'r capws arall yng nghanol y ddinas gyda dwy safle yn 27 a 35, The Parade. Mae'r coleg hefyd yn rhedeg saoln trin gwallt a harddwch masnachol yn Arcêd Castell Caerdydd, sef y Design Academy. Maen't hefyd yn darparu cyrsiau ar safleoedd allanol, megis rhai yn Nhrelái.
Sefydlwyd y coleg ym 1989, ac ymgorfforwyd gan siarter frenhinol ym 1993. Bwriadwyd i'r coleg wasanaethu ardal ddwyreiniol Caerdydd gyda choleg arall yn gwasanaethu'r gorllewin. Mae chwe cyfadran o fewn y coleg.
