Prifysgol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfau ac Arflun y Brifysgol

Mae Prifysgol Cymru'n Brifysgol Ffederal Genedlaethol Cymru.

Sefydlu[golygu]

Sefydlu Prifysgol Cymru drwy gyfrwng Siarter Frenhinol ar 30 Tachwedd 1893 oedd penllanw’r hyn y gellid ei ddisgrifio fel ‘mudiad’ prifysgol Cymru. Yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd adfywio ym mhob agwedd ar fywyd Cymru: yn economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol ac addysgol. Ym 1896, datganodd John Viriamu Jones, Prifathro cyntaf y Coleg Prifysgol yng Nghaerdydd, nad oedd ‘hanes Cymru yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf yn ddim llai na hanes ei chynnydd addysgol’ ac ni chafodd yr un agwedd ar fywyd cyhoeddus Cymru yn y cyfnod hwn fwy o sylw na chreu’r Brifysgol genedlaethol, ffederal. Deilliodd y Brifysgol o gynnydd aruthrol yn yr angen am gyfleoedd addysgol, dyheadau lleol cryf ac ysbrydoliaeth genedlaethol a oedd yn cael ei theimlo i’r carn, a hynny drwy uno tri choleg a oedd eisoes yn bod: Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (a agorwyd ym 1872 ac a ymgorfforwyd drwy Siarter, 1889); Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy (a agorwyd ym 1883 ac a ymgorfforwyd drwy Siarter, 1884); a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, ym Mangor (a agorwyd ym 1884 ac a ymgorfforwyd drwy Siarter, 1885).

Cyn 1893, yr oedd y Colegau a sefydlodd y Brifysgol wedi bod yn paratoi eu myfyrwyr ar gyfer graddau allanol Prifysgol Llundain, ac fel corff ar gyfer arholi a dyfarnu graddau yn bennaf y cafodd y Brifysgol ei chyfansoddi. Materion i’r Colegau eu hunain oedd penodi staff academaidd a’r cyfrifoldeb dros addysgu, a chafodd peirianwaith ffederal Llys y Brifysgol a Senedd y Brifysgol ei gynllunio i sicrhau bod y cynlluniau astudio yr oedd y Colegau’n eu darparu yn ddigonol ar gyfer dyfarnu graddau’r Brifysgol, ac i ddiogelu’r safonau arholi. Mae’r gwahaniaeth bras hwn rhwng y cyfrifoldebau ffederal a’r cyfrifoldebau cyfansoddol yn parhau hyd heddiw.

Comisiwn Haldane[golygu]

Drwy gydol ei hanes, mae Prifysgol Cymru wedi ceisio bod yn effeithiol drwy ddwyn manteision i’w cydrannau cyfansoddol. Gan gydnabod bod rhywfaint o dyndra a straen yn rhan annatod o unrhyw drefn ffederal, mae hanes y Brifysgol wedi ei nodweddu yn aml gan drafod mewnol rhwng tueddiadau sydd o blaid mwy o gydlynu a rheoli ar y naill law, a mwy o ryddid i’r unedau unigol ar y llall. Ar adegau mae datblygiadau o fewn y system addysg uwch yn gyffredinol wedi dylanwadu ar y trafod hwn. Fel hyn, yn sgil diddymu Prifysgol ffederal Victoria ym Manceinion, a chreu prifysgolion ‘dinesig’ newydd ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, aed ati i edrych o’r newydd ar strwythurau prifysgol ffederal yng Nghymru. Digwyddodd rhywbeth tebyg yn sgil pwysau o du’r Trysorlys dros sicrhau mwy o reolaeth ganolog ar gynlluniau a gwariant y colegau. Sefydlwyd Comisiwn Brenhinol ym 1916-18 (Comisiwn Haldane) i edrych, ymhlith pethau eraill, ar ‘sut y gellir gwella trefniadaeth bresennol Addysg Brifysgol yng Nghymru, a pha newidiadau, os o gwbl, sydd i’w dymuno yng nghyfansoddiad, swyddogaethau a phwerau’r Brifysgol a’i thri Choleg’. Bu argymhellion y Comisiwn yn sylfaen ar gyfer y Siarter Atodol a roddwyd i’r Brifysgol ym 1920. Diwygiodd y Siarter honno gyfansoddiad Llys y Brifysgol a chreu dau gorff newydd - Cyngor y Brifysgol a’r Bwrdd Academaidd. Corff gweithredol fyddai’r Cyngor, gyda chyfrifoldeb dros faterion ariannol, gan gynnwys dosbarthu’r arian a geid oddi wrth y Trysorlys a’r awdurdodau lleol ymhlith y Colegau. Disodlodd y Bwrdd Academaidd y Senedd fawr a chlogyrnaidd, a’i swyddogaeth oedd cynghori’r Cyngor ar faterion academaidd. Cafodd Comisiwn Haldane dystiolaeth a ddisgrifiodd fel tystiolaeth ‘a oedd yn llethol o blaid parhau Prifysgol Cymru, gan ddyfarnu graddau ac arfer cyfarwyddyd cyffredinol a rheolaeth … er lles pobl Cymru yn gyffredinol’. Cyflwynodd Siarter 1920 y Bwrdd Gwybodau Celtaidd a Bwrdd Gwasg hefyd, i wasanaethu buddiannau penodol dysg a diwylliant Cymru.

Sefydliadau Newydd[golygu]

Cyn iddo gael ei ailgyfansoddi, disgrifiodd Llys y Brifysgol waith Comisiwn Haldane fel ‘carreg filltir yn natblygiad Addysg Uwch yng Nghymru’, a dyna fel y bu, oherwydd, heblaw addasu systemau llywodraethu mewnol y Brifysgol, braenarodd Adroddiad aelodau’r Comisiwn Brenhinol y tir ar gyfer dau sefydliad newydd yng Nghymru a oedd i ddod yn aelodau allweddol o’r Brifysgol.

Cafodd cyn-Goleg Technegol Abertawe ei ymgorffori drwy Siarter yn bedwerydd Coleg Cyfansoddol y Brifysgol yn fuan iawn wedyn ym 1920, oherwydd gweithredu cyflym gan hyrwyddwyr Abertawe, Llys y Brifysgol a’r Cyfrin Gyngor. Er gwaethaf amheuon ar y dechrau a oedd darpariaethau’r Coleg Technegol ar gyfer astudio ac ymchwilio yn ddigonol, a phosibilrwydd cysylltiad â Chaerdydd ar gyfer Peirianneg, sicrhawyd bod Abertawe yn ymuno’n llwyddiannus â’r Brifysgol drwy gyfrwng cynlluniau Abertawe ei hun i fodloni awydd Comisiwn Haldane i weld Cyfadran Gelfyddydau yn cael ei sefydlu yn y Coleg.

Llawer mwy cymhleth ac anodd ei gyflawni oedd sefydlu Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yn Ysgol Gyfansoddol gyntaf y Brifysgol. Bu argymhelliad Haldane y dylai’r Ysgol ddod yn aelod cyfansoddol, yn annibynnol ar ei ‘rhiant’, Caerdydd, yn ddadleuol iawn, a theimlai Senedd y Brifysgol ei hun y byddai gwahanu’r Ysgol oddi wrth y Coleg yn andwyol i uniondeb academaidd a buddiannau cyffredinol y ddau sefydliad. Nid tan 1931 y cafwyd cyfaddawd effeithiol, er mwyn bodloni’r pryderon niferus a leisiwyd ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer astudiaethau rhag-glinigol a threfniadau ar gyfer prydlesu adeiladau Coleg Caerdydd. Yna creodd Siarter Atodol 1931 Ysgol newydd (i adlewyrchu’r ddarpariaeth un-Gyfadran mewn Meddygaeth), o dan arweiniad Profost, gan ddynodi Llys y Brifysgol yn awdurdod llywodraethu goruchaf ar y sefydliad newydd hefyd.

Y Blynyddoedd Rhwng y Rhyfeloedd[golygu]

Yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd gwelwyd dirywiad economaidd dirfawr yng Nghymru. Byddai colegau’r Brifysgol yn y De yn denu llawer o fyfyrwyr a oedd yn methu â dod o hyd i gyflogaeth a chafwyd cynnydd cyson yn y ddarpariaeth allanol. Er hyn, gostwng wnaeth nifer y myfyrwyr rhwng 1935 a 1939 ac ni newidiodd cymeriad y Brifysgol yn sylweddol drwy’r cyfnod hwn. I’r Brifysgol ei hun a’i phedwar Coleg, arweiniodd datgysylltu a dadwaddoli cynharach yr Eglwys yng Nghymru at drosglwyddo cronfeydd ym 1939 a fu’n gymorth i leddfu problemau llety ac at welliannau sylweddol mewn amwynderau i’r myfyrwyr. Yn gynharach, yr oedd Abertawe wedi gweld datblygu o bwys ym Mharc Singleton a chafodd Aberystwyth rodd hael o diroedd ym Mhen-glais.

Tensiynau Cyfansoddiadol[golygu]

Cynyddu’n gyflym wnaeth cyfanswm y myfyrwyr yn y Brifysgol yn y blynyddoedd ar ôl 1945. O boblogaeth o 2,309, cododd y niferoedd i 6,159 erbyn 1960. Oherwydd rhagolygon y byddai cyflymder yr ehangu yn y dyfodol yn gynt byth, cafwyd galwadau croch, o blith y staff academaidd yn bennaf, y dylai’r Brifysgol droi oddi wrth ffederaliaeth. Sefydlwyd Comisiwn gan y Brifysgol i ymchwilio ac i gyflwyno adroddiad ar y mater, ond cyflwynwyd dau adroddiad i’r Llys ym 1964, y naill yn gwrthdaro â’r llall: dadleuai un o blaid creu pedair prifysgol unedol yn lle’r brifysgol ffederal; yr oedd yr ail o blaid cadw’r brifysgol ffederal, gydag addasiadau yn ei threfniadaeth. Casgliadau’r ail adroddiad a dderbyniwyd gan Lys y Brifysgol, gan gadarnhau parhad Prifysgol Cymru yn un Brifysgol ffederal, genedlaethol.

Siarter Atodol 1967 oedd canlyniad Comisiwn y Brifysgol. Yn hon gwnaed rhai newidiadau pwysig, gan gynnwys cynyddu maint y Llys a’r Cyngor; ychwanegwyd hefyd at bwerau’r Bwrdd Academaidd. Oddi ar hynny, mae niferoedd y myfyrwyr wedi parhau i godi, fel pob prifysgol arall ym Mhrydain, gan godi o ychydig dros 6,000 ym 1960 i 21,000 ym 1990. Croesawyd dau goleg arall i’r Brifysgol yn aelodau cyfansoddol hefyd: Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) ym 1967 [unodd UWIST wedyn â Chaerdydd ym 1988], a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ym 1971. Yr oedd y penderfyniad i dderbyn Coleg Dewi Sant yn arbennig o ddiddorol, oherwydd, gan ei fod wedi ei sefydlu ym 1826, ef oedd y sefydliad hynaf yng Nghymru a oedd yn dyfarnu graddau, ond yr oedd y cwestiwn a ddylai ddod yn rhan o Brifysgol Cymru ai peidio wedi creu dadlau chwyrn fwy nag unwaith yn y gorffennol. Pan ddaeth yn un o sefydliadau cyfansoddol Prifysgol Cymru, rhoes y Coleg ei bwerau i ddyfarnu graddau heibio, er mwyn i’w fyfyrwyr gael derbyn graddau Prifysgol Cymru.

Argyfwng yng Nghaerdydd[golygu]

Byddai argyfwng ariannol difrifol yng Ngholeg Caerdydd yn y 1980au yn dwyn goblygiadau o bwys ar gyfer atebolrwydd cyhoeddus sefydliadau addysg uwch yn y DU a chafodd hyn effaith yn naturiol ar y Brifysgol ffederal ei hun. Yn sgil adroddiad gan Weithgor ar Bwerau a Swyddogaethau ym 1989, sefydlwyd Cyd-bwyllgor Cynllunio ac Adnoddau (JPRC) gan y Brifysgol i baratoi cynlluniau strategol ar gyfer y Brifysgol gyfan. Arweiniodd newidiadau eraill at greu system o Baneli Pwnc rhyng-golegol, penodi Is-Ddirprwy Ganghellor i gadeirio’r JPRC, a Thrysorydd Prifysgol i fod yn gyfrifol am gyflwyno adroddiadau i’r Cyngor ar hyfywedd ariannol y Brifysgol a’r sefydliadau cyfansoddol.

Newid a Newid Eto[golygu]

Er hynny, byrhoedlog fu unrhyw obaith bod y Brifysgol ar drothwy cyfnod o sefydlogrwydd lle y gallai’r canol ffederal cyfnerthedig chwarae rhan amlycach ym materion y Brifysgol. Bu newidiadau mawr yn strwythur addysg uwch o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, y penderfyniad cysylltiedig i sefydlu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ym mis Ebrill 1993, a thystiolaeth gynyddol o bwysau mewnol yn erbyn yr hyn a welid fel symud yr awdurdod dros gynllunio oddi wrth y sefydliadau cyfansoddol tuag at y canol ffederal oll yn sbardun ar gyfer gwneud adolygiad cynnar o ddiwygiadau 1989, a hynny ar fyrder. Sefydlwyd Gweithgor arall gan y Brifysgol o dan gadeiryddiaeth Syr Melvyn Rosser, Llywydd CPC Aberystwyth, i edrych ar swyddogaeth y Brifysgol yn system addysg uwch newydd Cymru, ac i adolygu strwythur gweinyddol mewnol y Brifysgol.

Mabwysiadwyd Adroddiad Rosser a’i argymhellion gan Lys y Brifysgol ym mis Gorffennaf 1993, a nodweddion allweddol y system lywodraethu newydd a ddaeth i rym ym mis Ionawr 1995 oedd: Datganiad Cenhadaeth ar gyfer y Brifysgol, o’i chyferbynnu â’r sefydliadau cyfansoddol unigol; corff newydd a dylanwadol, Bwrdd yr Is-Gangellorion, y mae ei graidd yn cynnwys Is-Gangellorion y chwe sefydliad cyfansoddol; lleihau maint Cyngor y Brifysgol, ond gan gadw cyfran yr aelodau lleyg; teitl newydd o Is-Ganghellor Hþn i’r prif swyddog academaidd a gweithredol, a etholir erbyn hyn gan y Brifysgol; swydd newydd Ysgrifennydd Cyffredinol, y mae ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau fel prif swyddog gweinyddol y Brifysgol yn cynnwys swyddogaethau cyn-swydd Cofrestrydd y Brifysgol; ac addasiadau yn swyddogaeth y Trysorydd, y mae ei gyfrifoldebau neu ei chyfrifoldebau bellach yn ymwneud â chronfeydd y Brifysgol ffederal yn unig. Yn sgil y newidiadau hyn, cafodd y JPRC a swydd yr Is-Ddirprwy Ganghellor eu dirwyn i ben.

Cafwyd pennod newydd yng nghyd-berthnasoedd y Brifysgol ffederal pan roddwyd Adroddiad Rosser ar waith, yn bennaf oherwydd bod Bwrdd yr Is-Gangellorion wedi dod i’r amlwg fel corff cynghorol allweddol. Mae y ‘llinell ddeuol’ a chreu’r prifysgolion newydd er 1992 wedi creu heriau newydd i’r hen brifysgolion mwy traddodiadol yn y DU, ac felly hefyd polisïau a gweithdrefnau newydd y llywodraeth ar gyfer ariannu. Mae Prifysgol Cymru wedi ceisio ymateb yn gyflym ac effeithiol drwy sicrhau a gwella sefyllfa’r gwasanaethau canolog y mae’n eu trefnu - megis ei chanolfan breswyl yng Ngregynog yng nghanolbarth Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, a’r Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.

Y Dyfodol[golygu]

Er hynny, pwysicach at y tymor hir oedd y pwyslais newydd ar bartneriaeth ffederal gryf rhwng y Sefydliadau Cyfansoddol a’r Colegau sy’n aelodau o’r Brifysgol. Rhoddwyd hygrededd pellach i’r cysyniad o bartneriaeth drwy fabwysiadu teitlau sefydliadol newydd a derbyn dau aelod sefydliad newydd – Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg Prifysgol Cymru, Casnewydd – ym 1996. Ymgorfforwyd diffiniad cliriach o amcanion ffederaliaeth a chydnabyddiaeth gan y ddwy ochr i briod bwerau a chyfrifoldebau’r Brifysgol a’i rhwydwaith o aelod-sefydliadau mewn Fframwaith Academaidd newydd ym 1997. Yr oedd cytundeb yr holl bartneriaid ffederal i’r Fframwaith yn angenrheidiol ac yn amserol am fod y Fframwaith yn cyflwyno ymagwedd ddatganolaidd at faterion llywodraethu a rheoli academaidd, gan atseinio, drwy hynny, nodau Adroddiad Dearing ar Addysg Uwch a’r ffaith fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei sefydlu.

Er gwaethaf y ffaith fod y newidiadau hyn wedi dod â gwell sefydlogrwydd, yr oedd y Brifysgol, a’r sector addysg uwch yng Nghymru yn gyffredinol, yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Y Cynulliad Cenedlaethol ei hun a osododd un o’r cyfryw heriau. Yn 2001, cynhaliodd Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol-Oes y Cynulliad adolygiad o addysg uwch yng Nghymru. Yr oedd rhai sylwebyddion o’r farn bod darganfyddiadau’r adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2002, yn herio dilysrwydd rôl y Brifysgol a hyd yn oed yn rhagargoeli ei . Drwy gyd-ddigwyddiad, yr oedd y Brifysgol wedi comisiynu’r cyfreithiwr academaidd, Syr David Williams, cyn-Is-Ganghellor Prifysgol Caergrawnt, i ymgymryd ag adolygiad o’i haelodaeth a’i strwythurau. Yr oedd adroddiad Williams yn cynnig y dylid mewn gwirionedd helaethu Prifysgol Cymru yn hytrach na’i rhannu, drwy dderbyn yn aelodau y pum sefydliad addysg uwch Cymreig nad oeddynt ar y pryd yn aelodau.

Byddai Prifysgol Cymru a ymhelaethid felly yn cynnwys holl sefydliadau Cymru o dan adain ei gradd, gan wireddu, drwy hynny, y cysyniad o “Un Genedl, Un Brifysgol”. Cymeradwywyd y cynigion gan yr wyth aelod-sefydliad a chan Gyngor y Brifysgol ym mis Gorffennaf 2002 ac, wedi hynny, gwahoddwyd y pum sefydliad nad ydynt yn aelodau i ystyried ymuno â’r Brifysgol. Daeth ymatebion cadarnhaol i law oddi wrth pob un ohonynt ar wahân i Brifysgol Morgannwg, a chyflwynwyd y newidiadau angenrheidiol i Siarter a Statudau’r Brifysgol er mwyn caniatáu i Athrofa Addysg Uwch Abertawe, Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru, Coleg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddyfod yn aelodau llawn i’r Cyfrin Gyngor am gymeradwyaeth yn ystod 2003/04.

Ar yr un pryd ag yr oedd y datblygiadau cadarnhaol hyn yn digwydd, cafodd dau o aelodau sefydledig y Brifysgol eu hunain yn y sefyllfa o orfod paratoi ar gyfer gwrthgilio o aelodaeth. Yn 2003, penderfynodd Caerdydd a’r Coleg Meddygaeth, oedd wedi bod yn cydweithio’n agos ers rhai blynyddoedd, y byddent yn uno ar 1 Awst 2004 dan y teitl ffurfiol “Prifysgol Caerdydd” (teitl y bu Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn ei ddefnyddio fel “enw cyhoeddus” ers rhai blynyddoedd). Gan nad ystyrir ei fod yn bosibl, o dan y fframwaith cyfreithiol a pholisi, i sefydliad sy’n dwyn teitl prifysgol yn ei hawl ei hun i fod yn aelod o brifysgol arall, y mae Caerdydd a’r Coleg Meddygaeth wedi gorfod tynnu’n ôl o aelodaeth Prifysgol Cymru, a bydd hyn yn digwydd ar ddyddiad yr uno, pan fydd y teitl newydd yn dod yn weithredol. Mae darpariaeth wedi’i wneud i Brifysgol Caerdydd gadw cysylltiad â Phrifysgol Cymru fel Sefydliad Cyswllt (Cysylltiedig) ar ôl y dyddiad hwnnw. Y mae Caerdydd (sydd ers sawl blwyddyn wedi dal ond heb ddefnyddio ei phwerau dyfarnu graddau ei hun) wedi nodi y bydd, o 1 Awst 2005 ymlaen, yn dechrau cofrestru myfyrwyr ar gynlluniau gradd fydd yn arwain at ddyfarnu gradd Caerdydd yn hytrach na gradd Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, oherwydd rôl Cymru-gyfan y Coleg Meddygaeth, y mae Caerdydd a CMPC, yn y dyfodol rhagweladwy, yn dymuno parhau i gofrestru myfyrwyr ar gynlluniau gradd is-raddedigion Prifysgol Cymru mewn meddygaeth, deintyddiaeth a rhai meysydd perthynol.

Yn bennaf yn sgil datblygiadau yn y berthynas â Chaerdydd, ym mis Mawrth 2004, penderfynodd y Cyngor sefydlu Gweithgor, dan Gadeiryddiaeth y Dirprwy Ganghellor, i adolygu a’i gynghori ar rolau, swyddogaethau a strwythur y Brifysgol yn y dyfodol, a’i pherthnasau â’r sefydliadau yn y dyfodol.