Prifysgol Bryste

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Prifysgol Bryste
University of Bristol
Ubristol-logo.gif
Logo Prifysgol Bryste
Enw Lladin Universitas Bristolliensis (Bris.)
Arwyddair Vim promovet insitam
Arwyddair yn Gymraeg "[Mae dysgu] yn hybu ein pŵer cynhenid" – o Horace, Ode 4.4[1]
Sefydlwyd 1909 gan Siarter Brenhinol
Coleg Prifysgol ers 1876[2]
Math Cyhoeddus
Gwaddol £46.4 miliwn[3]
Canghellor Barwnes Hale o Richmond[4]
Is-ganghellor Athro Eric Thomas[5]
Pennaeth Arglwydd Lywydd y Cyngor ex officio[6]
Staff 5,119 (2006)[7]
Myfyrwyr 22,780[8]
Israddedigion 15,330[8]
Ôlraddedigion 7,450[8]
Lleoliad Bryste, Baner Lloegr Lloegr
Campws Trefol
Lliwiau Pantone 187[9]
Tadogaethau Russell Group
Coimbra Group
Worldwide Universities Network
Universities UK
Gwefan http://www.bristol.ac.uk/

Prifysgol ym Mryste, Lloegr yw Prifysgol Bryste.[10] Derbyniodd freinlen frenhinol ym 1909,[11] ond serch hynny, roedd ‘University College’ (rhagflaenydd Prifysgol Bryste) wedi bod mewn bodolaeth ers 1876.[12] Mae’r brifysgol ym Mryste yn un o aelodau gwreiddiol yr enwog ‘Red Brick Universities’ ynghyd â Byrmingham, Leeds, Lerpwl, Manceinion a Sheffield. Ystyrir Bryste fel un o ddeg prifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig, ac yn wir, mae rhan fwyaf y cynghreiriau prifysgol yn tystio i’r ffaith yn flynyddol [13][14][15] Mae’r Brifysgol yn derbyn y nifer mwyaf o geisiadau i bob lle sydd ar gael nag unrhyw brifysgol Brydeinig arall.[16] Cyllid blynyddol y Brifysgol yw £260m.[17]

Mae’r Brifysgol yn aelod o’r Grŵp Russell,[18] yn ogystal â’r grŵp Europeaidd, Coimbra Group[19] ac hefyd Rhwydwaith Rhyngwladol Prifysgolion (Worldwide Universities Network) Mae tua 23,000 o fyfyrwyr ym mhrifysgol Bryste, ac yn wir, un o ddau prifysgol ym Mryste yw Prifysgol Bryste. Mae’r llall, Prifysgol Gorllewin Lloegr (The University of the West of England) yn iau na Phrifysgol Bryste. Cafodd y Brifysgol lot o sylw yn ystod y flwyddyn 2003 ynglŷn â’i pholisïau mynediad, gyda chwynion bod y Brifysgol yn ffafrio disgyblion o’r sector breifat yn lle disbylion o ysgolion cyhoeddus, llywodraethol.[20]

Hanes[golygu]

Sefydliad[golygu]

Rhagflaenydd cynharaf y Brifysgol oedd yr adran beirianneg. Fe’i sefydlwyd fel ysgol o leiaf yn ystod y flwyddyn 1595, ac fe ddaeth yr ysgol hon yn gyfadran beirianneg y Brifysgol. Llwyddodd y Brifysgol wneud cais am freinlen frenhinol diolch i gefnogaeth ariannol y teuluoedd Wills a Fry; teuluoedd a gafodd cyfoedd trwy’r fasnach tobaco a siocled, yn ôl eu trefn. Er i’r teulu Wills ennill ei arian trwy blanhigfeydd caethweisiol, fe ddaethon nhw, yn y pen draw, yn ddiddymwyr caethwasiaeth a rhoi ei arian i ddinas Bryste.[21] Cafwyd breinlen frenhinol ym mis Mai, 1909 gyda 288 o is-raddedigion a 400 o fyfyrwyr erailll yn cychwyn eu hastudiaethau yn y Brifysgol ym mis Hydref, 1909. Henry Overton Wills y Trydydd oedd y canghellor gyntaf. ‘University College’ (rhagflaenydd Prifysgol Bryste) oedd y sefydliad cyntaf yn y wlad i dderbyn merched ar yr un sail â dynion. Serch hynny, fe’u gwaharddwyd rhag sefyll arholiadau mewn Meddygaeth tan 1906.

Datblygiad Hanesyddol[golygu]

Ers sefydlu ym 1909, mae’r Brifysgol wedi tyfu cryn lawer, ac erbyn hyn, hi yw un o gyflogwyr mwyaf y ddinas. Mae Prifysgol Bryste yn llai o ran nifer myfyrwyr na’r brifysgol gyfagos, University of the West of England (UWE). Dydy Prifysgol Bryste ddim yn brifysgol campws fel UWE neu brifysgol Caerfaddon, ond mae wedi’i lledu ar draws rhanbarth daearyddol mawr. Er hyn, gellir dod o hyd i rhannau ‘pwysica’r’ brifysgol mewn ardal dwys yng nghanol y ddinas a elwir "University Precinct" (Cyffin y Brifysgol).

Blynyddoedd Cynnar[golygu]

Ar ôl sefydlu ‘University College’ ym 1876, cafwyd cefnogaeth llywodraethol o ddechrau 1889. Wedi cyfuniadau gydag Ysgol Feddygol Bryste ym 1893 a choleg technegol Merchant Venturers’ ym 1909, derbyniwyd mwy o arian, ac fe ddefnyddiodd ‘University College’ yr arian i agor Ysgol Feddygol newydd ac Ysgol Beirianneg —dau bwnc sydd hyd heddiw ymysg cryfderau’r Brifysgol. Ym 1908, rhoddodd y teuluoedd Fry a Wills roddion caredig i’r Brifysgol: rhoddodd Henry Overton Wills y Trydydd £100,000 sydd yn gyfystyr â £6m yn ein harian ni heddiw. Rhoesant yr arian er mwyn darparu prifysgol i Fryste a gorllewin Lloegr, ar yr amod y câi’r Brifysgol breinlen frenhinol o fewn dwy flynedd. Yn Rhagfyr 1909, addefodd y Brenin freinlen, ac o ganlyniad sylfaenwyd Prifysgol Bryste. Henry WIlls oedd y canghellor cyntaf a Conwy Lloyd Morgan oedd yr is-ganghellor. Bu farw Wills ym 1911, ac fel teyrnged iddo, adeiladodd George a Henry Wills (ei feibion) Adeilad Coffa Wills, gan ddechrau’r gwaith ym 1913 a chwblhau’r prosiect ym 1925. Heddiw, anhedda rannau o adranau’r gwyddorau daearol a’r gyfraith. Yn ogystal, cynhelir seremonïau graddio yn y Neuadd Fawr tu fewn i’r Adeilad Coffa.

Ym 1920, prynodd George Wills yr Ystafelloedd Victoria a’u cyfrannu i’r brifysgol fel Undeb Myfyrwyr. Erbyn heddiw, yr adran Gerddoriaeth sy’n defnyddio’r Ystafelloedd Victoria.

Ymysg enwau enwog a gysylltwyd â Bryste yn ystod yr adeg cynnar hwn oedd Paul Dirac, a raddiodd ym 1921 gyda gradd ym Mheirianeg, cyn cael ei ail radd ym mathemateg ym 1923 o Brifysgol Caergrawnt. Yn sgîl ei waith arloesol ar fecaneg cwantwm, fe’i wobrwyd ym 1933 y wobr Nobel ar gyfer Ffiseg.[22] Later in the 1920s, the H.H. Wills Physics Laboratory was opened by Ernest Rutherford.[23] It has since housed several Nobel Prize winners: Cecil Frank Powell (1950);[24] Hans Albrecht Bethe (1967);[25] and Sir Nevill Francis Mott (1977).[26] The Laboratory stands on the same site today, close to the Bristol Grammar School and the city museum.

Ym 1929, penodwyd Sir Winston Churchill yn drydydd Canghellor y brifysgol, dyletswydd a barodd tan 1965.[12] Dilynodd Richard Haldane, a oedd yn ganghellor o 1912 yn dilyn marwolaeth Henry Wills.[27][28]

Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, bomiwyd Adeilad Coffa Wills, gan ddinistrio’r Neuadd Fawr a’r organ oddi fewn iddi.[12] Serch hynny, mae’r neuadd eisoes wedi’i hadfer i’w gogoniant gynt.

Datblygiad ôl-rhyfel[golygu]

Ym 1946, sefydlodd y Brifysgol adran ddrama gyntaf y Deyrnas Unedig.[12] Yn yr un flwyddyn, dechreuodd Bryste gynnig arholiadau mynediant arbennig a grantiau i helpu’r milwyr oedd yn dychwelyd adref ar ôl bod yn gwasanaethu’r wlad. Parhaodd i niferoedd y myfyrwyr gynyddu, ac yn y pen draw, bu angen adeilad newydd ar y gyfadran Beirianeg, ac Adeilad y Frenhines byddai’n cyflawni’r angen ym 1955. Tan 1996, roedd yr adeilad hynod hwn yn gartref i holl beirianwyr y brifysgol, ond erbyn hyn mae myfyrwyr Peirianeg Trydanol a Gwyddorau Cyfrifadurol yn Adeilad Merchant Verturer ar draws y ffordd. Gyda thyfiant annisgwyl yn y 60au, yn arbennig o ran myfyrwyr is-raddedig, bu rhaid i’r Undeb Myfyrwyr gael gafael ar adeilad newydd, mwy o faint, ac ym 1965, symudodd yr Undeb i adeilad yn ardal Clifton. Roedd yr adeilad hwn yn fwy o lawer na Ystafelloedd Victoria (sydd erbyn heddiw yn gartref i’r adran gerddoriaeth). Darpara’r Undeb newydd ystafelloedd ymarfer a rhaid ystafelloedd arbenigol, yn ogystal â 3 bar: yr Epi; y Mandela a’r Avon Gorge. Er bod yr adeilad yn fawr, barn y mwyafrif yw bod yr adeilad yn hyll [29] a chwyna rhai nad yw’r adeilad yn cyd-fynd â phensaernïaeth gwedill ardal Clifton. Mae’r brifysgol wedi argymell symud yr Undeb i ardal fwy canolog fel rhan o’i chynllyn datblygiad.[30]

Yn ystod y 1960au, roedd chwyldroadau myfyriol yn y Deyrnas Unedig yn amlwg iawn, a doedd Bryste ddim yn eithriad. Ym 1968, gorymdeithiodd nifer o fyfyrwyr er cefnogaeth yr Adroddiad Anderson a oedd yn galw am grantiau myfyrwyr uwch.

Ers 1988, dim ond dau ganghellor sydd wedi bbod yn gweithio yn y Brifysgol: Syr Jeremy Morse, cyn gadeirydd Banc Lloyds ac yn ddiweddarach (ers 2003) Barwnes Brenda Hale, y ddynes cyntaf i fod yn Arglwydd y Gyfraith (Law Lord) [27][28]

Yn 2002, agorodd y Brifysgol ganolfan chwaraeon newydd yng nghanol cyffin y Brifysgol.[31] Gall breswylwyr lleol hefyd ddefnyddio’r cyfleusterau am gost.[32]

Parha ehangiadau yng ngweithgarwch academaidd y Brifysgol. Yn 2004, er enghraifft, cwblhaodd y Gyfadran Beirianneg waith ar BLADE (Labordy Bristol ar gyfer Peirianneg Deinamig Uwch). Costiodd y labordy £18.5m [33] a darpara technoleg i’r funud i hybu a hyrwyddo astudiaethau deinamigs. Hwn yw’r labordy o’i fath mwyaf datblygiedig Ewrop. Agorwyd BLADE gan ei Mawrhydi Elizabeth II ym mis Mawrth 2005.

Dadl ceisiadau Prifysgol 2003[golygu]

Mae rhywrhai wedi brandio’r Brifysgol yn sefydliad elitydd,[34] gyda 42% o fyfyrwyr is-raddedig y Brifysgol yn dod o ysgolion fonedd, yn ôl ffigyrau 2006/2007, er bod y fath fyfyrwyr yn cynrychioli ond 7% o boblogaeth y Deyrnas Unedig.[35] The high ratio of undergraduates from non-state school has led to some tension at the university.[36] Diwedd Chwefror 2003, roedd y Brifysgol mewn dadl ynglŷn â’i pholisïau derbyn myfyrwyr, gyda rhai ysgolion fonedd yn bygwth boicotio’r Brifysgol [37] am iddyn nhw honni bod y Brifysgol yn ffarfrio myfyrwyr o’r sector cyhoeddus er niwed eu myfyrwyr nhw. Gwadodd Bryste’r honiadau yn gryf iawn.[38] Ym mis Awst 2005, yn dilyn arolwg ar raddfa fawr, cydnabu’r Cyngor Ysgolion Annibynol nad oedd unrhyw dystiolaeth yn cefnogi honiadau’r ysgolion fonedd.[39] Bellach, mae gan y Brifysgol bolisi newydd,[40] sydd yn gosod manylion manwl iawn ynglŷn â sut i ddelio gyda gwahanol cefndiroedd addysgol ei hymgeiswyr. Mae’r polisi yn annog cyfranogiad gan breswylwyr lleol.

Enw Da Academaidd[golygu]

Yn gyffredinol, mae nifer o gynghreiriau addysgol yn gosod Bryste o fewn y deg prifysgol gorau ym Mhrydain. Ar lefel ryngwladol, gosododd The Times High Education Supplement y Brifysgol yn 64ydd yn 2006 ac yn 37ain yn 2007.[41] Yn ôl data a gyhoeddodd y Daily Telegraph, mae gan Bryste y trydydd canran uchaf o ‘anrhydeddau dda’ ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt.[42]

Neuaddau Preswyl[golygu]

Mae lletyau myfyrwyr y Brifysgol i’w canfon yn Clifton, yn gyfagos i’r Brifysgol, ac yn Stoke Bishop, ger y Bristol Downs.[43] Yn Stoke Bishop, agorwyd Wills Hall gyntaf yn 1929 gan Winston Churchill, y cangholler ar y pryd. Dilynodd Chuchill Hall yn 1956 yna Badock Hall yn 1964.[43][44] Ar y pryd pan agorwyd neuadd Badock roedd ambell i adeilad yno o’r enw Hiatt Baker, ond symudodd Hiatt Baker i safle arall ac fe’i sefydlwyd fel neuadd annibynnol yn 1966. Hiatt Baker ydy’r neuadd fwyaf ym Mryste erbyn hyn.[43][45] Y neuadd cyntaf i gynnig gwasanaeth arlwyo oedd University Hall yn 1977, ac fe’i hehangodd yn 1992.[43] Agorwyd neuadd mwyaf diweddar y Brifysgol, Durham Hall, yn Stoke Bishop yn 1994.[43]

Yn Clifton, adeiladwyd Neuadd Goldney gyntaf yn y 1700au cynnar gan deulu cyfoethog o’r ardal ond dim ond yn 1956 y daeth Goldney Hall yn eiddo’r Brifysgol.[46] Mae’n leoliad poblogaidd ar gyfer ffilmio gyda chynhyrchwyr teledu yn dewis y neuadd dro ar ôl tro. Defnyddiwyd y neuadd ar gyfer cyfres deledu The Chronicles of Narnia, The House of Elliot, Truly, Madly, Deeply yn ogystal â phenodau o Only Fools And Horses a Casualty.[47] Adeilad Gradd I ydy Clifton Hill House. Fe’i adeiladwyd rhwng 1745 ac 1750 gan Isaac Warel, ac fe’i ddefnyddiwyd fel neuadd breswyl ers dyddiau cynnar y Brifysgol yn 1909.[43][48] Achos cyfraniad gan Henry Herbert Wills yr adeiladwyd Manor Hall, neuadd breswyl arall yn Clifton. Dechreuodd waith ar y neuadd yn 1927. Mae’r neuadd yn cynnwys pump adeilad.[43][49]

Strwythr Academaidd[golygu]

Rhennir y Brifysgol yn chwech cyfadran:[50]

Cyfadran y Celfyddydau[golygu]

  • Archaeoleg ac Anthropoleg
  • Drama: Theatr, Ffilm, Teledu
  • Hanes Celf
  • Cerddoriaeth
  • Athroniaeth
  • Y Clasurau
  • Saesneg
  • Astudiaethau Hanesyddol
  • Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol
  • Ffrangeg;
  • Almaeneg
  • Astudiaethau Hisbanaidd, Portiwgalaidd a Lladin Americanaidd
  • Eidaleg
  • Rwsieg

Cyfadran Beirianneg[golygu]

  • Peirianneg Awyrofod
  • Peirianneg Sifil
  • Gwyddorau Cyfrifiadurol
  • Peirianneg Drydannol
  • Peirianneg Fathemategol
  • Peirianneg Fecanyddol

Cyfadran y Gwyddorau Meddygol a Milfeddygol[golygu]

  • Anatomeg
  • Biocemeg
  • Meddygaeth Gellog a Molecwlaidd
  • Gwyddoniaeth Milfeddygol Clinigol
  • Ffisioleg a Ffarmacoleg

Cyfadran Wyddoniaeth[golygu]

  • Gwyddorau Biolegol
  • Cemeg
  • Gwyddorau’r Ddaear
  • Seicoleg Arbrofol
  • Gwyddorau Daearyddol
  • Mathemateg
  • Ffiseg

Cyfadran Meddygaeth a Deintyddiaeth[golygu]

  • Gwyddoniaeth Clinigol yng Ngogledd Bryste
  • Gwyddonaieth Clinigol yn Ne Bryste
  • Meddygaeth Cymunedol
  • Gwyddoniaeth Deintyddol
  • Meddygaeth Cymdeithasol

Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfraith[golygu]

  • Awdioleg
  • Gwleidyddiaeth
  • Cymdeithaseg
  • Addysg
  • Gwyddorau Daearyddol
  • Astudiaethau Byddardod
  • Cyfrifyddiaeth
  • Economeg
  • Rheolaeth
  • Y Gyfraith

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  The University Arms. Prifysgol Bryste. Adalwyd ar 3 Rhagfyr 2007.
  2.  Bristol University, Educational Institution. NNDB. Adalwyd ar 13 Mai 2007.
  3.  Vice-Chancellor’s operating and financial report. Prifysgol Bryste. Adalwyd ar 21 Chwefror 2009.
  4.  Chancellor’s biography. Prifysgol Bryste. Adalwyd ar 13 Mai 2007.
  5.  Vice Chancellor's welcome. Prifysgol Bryste. Adalwyd ar 13 Mai 2007.
  6.  Institutions for which the President of the Council acts as Visitor. Privy Council Office. Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2007.
  7.  University of Bristol Facts & Figures. Adalwyd ar 3 Chwefror 2007.
  8. 8.0 8.1 8.2  Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07. Higher Education Statistics Agency. Adalwyd ar 5 Ebrill 2008.
  9.  University of Bristol logo. Prifysgol Bryste. Adalwyd ar 3 Rhagfyr 2007.
  10. "Maps and Guides". The University precinct map. http://www.bristol.ac.uk/university/maps/precinct.html. Adalwyd 2008-04-28. 
  11. "The University of Bristol Acts". THE UNIVERSITY OF BRISTOL ACT 1909. http://www.bristol.ac.uk/cms/go/statutes/regs/acts.html. Adalwyd 2007-05-13. 
  12. 12.0 12.1 12.2 12.3 "Bristol University History". History of the University. http://www.bristol.ac.uk/university/history/. Adalwyd 2007-05-13. 
  13. "The Times Good University Guide 2007". Top Universities 2007 League Table. http://www.timesonline.co.uk/displayPopup/0,,102571,00.html. Adalwyd 2007-05-14. 
  14. "The Sunday Times University League Table" (PDF). 2007 League Table. http://extras.timesonline.co.uk/stug2006/stug2006.pdf. Adalwyd 2007-05-14. 
  15. "The Good University Guide". The Good University Guide. http://www.thegooduniversityguide.org.uk/league_static.php?auth=1&startNum=1&endNum=12&order_by=rank. Adalwyd 2007-05-14. 
  16. "Times Online:UCL most popular university online". The Times. 2006. http://www.timesonline.co.uk/tol/life_and_style/education/good_university_guide/article3523015.ece. Adalwyd 2008-05-16. 
  17. "Wildscreen Festival 2006: University of Bristol". Wildscreen. 2006. http://www.wildscreenfestival.org/index.php?pageid=163&parentid=153. Adalwyd 2007-12-20. 
  18. "The Russell Group". List of Russell Group Members. http://www.russellgroup.ac.uk/index1.html. Adalwyd 2007-05-14. 
  19. "The Coimbra Group". List of Coimbra Group Members. http://www.coimbra-group.be/06_members.php. Adalwyd 2007-05-14. 
  20. "Bristol faces boycott over admissions row". The Guardian. http://education.guardian.co.uk/universityaccess/story/0,,907273,00.html. Adalwyd 2007-12-03. 
  21. "Bristol's slave trading past". Epigram. http://www.epigram.org.uk/view.php?id=1612. Adalwyd 2007-12-03. 
  22. "Notable alumni - Faculty of Engineering". University of Bristol. http://www.alumni.bris.ac.uk/NetCommunity/Page.aspx?&pid=280&srcid=190. Adalwyd 2007-12-06. 
  23. "History of the Department". Department of Physics, University of Bristol. http://www.phy.bris.ac.uk/history.html. Adalwyd 2007-12-06. 
  24. "The Nobel Prize in Physics 1950". The Nobel Foundation. http://nobelprize.org/nobel_prizes/physics/laureates/1950/. Adalwyd 2007-12-06. 
  25. "Hans Bethe - Biography". The Nobel Foundation. http://nobelprize.org/nobel_prizes/physics/laureates/1967/bethe-bio.html. Adalwyd 2007-12-06. 
  26. "Sir Nevill F. Mott". The Nobel Foundation. http://nobelprize.org/nobel_prizes/physics/laureates/1977/mott-bio.html. Adalwyd 2007-12-06. 
  27. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' past-officers
  28. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' archives-hub
  29. "The Students' Union". University of Bristol Union. http://www.bris.ac.uk/union/altprospectus/unilife/union. Adalwyd 2007-12-06. 
  30. "University of Bristol Strategic Masterplan" (PDF). University of Bristol. July 2006. pp. 64. http://www.bris.ac.uk/Depts/Bursar/masterplan06/1masterplan.pdf. Adalwyd 2007-12-06. 
  31. "Bristol University - Centre for Sport, Exercise & Health - About us". University of Bristol. 2007-10-02. http://www.bris.ac.uk/sport/about/. Adalwyd 2007-12-20. 
  32. "Bristol University - Centre for Sport, Exercise & Health - community programmes". University of Bristol. 2007-09-28. http://www.bris.ac.uk/sport/community. Adalwyd 2007-12-20. 
  33. "Places - BLADE". University of Bristol. 2007-12-20. http://www.bristol.ac.uk/university/gallery/places/blade.html. Adalwyd 2007-12-20. 
  34. "Elite uni aims to broaden its appeal". BBC news. http://news.bbc.co.uk/1/hi/education/1768564.stm. Adalwyd 2007-12-12. 
  35. "Understated". Etan Smallman:Epigram Online. http://www.epigram.org.uk/view.php?id=1583. Adalwyd 2007-12-12. 
  36. The sad side of Bristol Uni
  37. "Private schools 'boycott' Bristol". BBC news. http://news.bbc.co.uk/1/hi/education/2818263.stm. Adalwyd 2007-12-12. 
  38. "Bristol remains firm on admissions". BBC news. http://news.bbc.co.uk/1/hi/england/bristol/3014108.stm. Adalwyd 2007-12-12. 
  39. "'No bias' against private pupils". BBC news. http://news.bbc.co.uk/1/hi/education/4161100.stm. Adalwyd 2007-12-12. 
  40. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' admit-policy
  41. "Times Higher Education Supplement 2007:The World's Top 200 Universities". The Times Higher Education Supplement. http://www.paked.net/higher_education/rankings/times_rankings.htm. Adalwyd 2007-12-21. 
  42. "University league table". The Telegraph. http://www.telegraph.co.uk/news/main.jhtml?xml=/news/2007/07/30/ncambs430.xml. Adalwyd 2007-12-21. 
  43. 43.0 43.1 43.2 43.3 43.4 43.5 43.6 "Accommodation Prospectus 2007" (pdf). University of Bristol. pp. 3. http://www.bris.ac.uk/accom/prospectus/pros.pdf. Adalwyd 2007-12-21. 
  44. "Badock Hall Prospectus". University of Bristol. http://www.bris.ac.uk/Depts/Badock/prospectus.shtml. Adalwyd 2007-12-21. 
  45. "Hiatt Baker Hall History". University of Bristol. http://www.bris.ac.uk/hiattbaker/history/. Adalwyd 2007-12-21. 
  46. "Goldney Hall History". University of Bristol. http://www.bris.ac.uk/Depts/Goldney/history.htm. Adalwyd 2007-12-21. 
  47. "Titles with locations including Goldney Hall, Clifton, Bristol, England, UK". Internet Movie Database. http://uk.imdb.com/List?endings=on&&locations=Goldney%20Hall,%20Clifton,%20Bristol,%20England,%20UK&&heading=18;with+locations+including;Goldney%20Hall,%20Clifton,%20Bristol,%20England,%20UK. Adalwyd 2007-01-03. 
  48. "Clifton Hill House and attached front walls, Clifton Hill, Bristol". National Monument Record. English Heritage. http://www.imagesofengland.org.uk/details/default.aspx?id=379238. Adalwyd 2007-12-21. 
  49. "Manor Hall and Sinclair House History". University of Bristol. http://www.bris.ac.uk/Depts/Manor/new/history.htm. Adalwyd 2007-12-21. 
  50. "Academic Departments and Research Centres by Faculty". University of Bristol. http://www.bristol.ac.uk/index/faculties/. Adalwyd 2007-08-10. 

Dolenni allanol[golygu]