Prifysgol Caerwysg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

50°44′11″N 3°32′04″W / 50.736509°N 3.534422°W / 50.736509; -3.534422Cyfesurynnau: 50°44′11″N 3°32′04″W / 50.736509°N 3.534422°W / 50.736509; -3.534422

Prifysgol Caerwysg
University of Exeter
Exeter University Crest Colour.jpg
Arfbais Prifysgol Caerwysg
Arwyddair Lucem sequimur
Arwyddair yn Gymraeg Dilynwn y goleuni
Sefydlwyd 1955 - siarter brenhinol
(1922 - Coleg Prifysgol)
Math Cyhoeddus
Gwaddol £29.1 miliwn[1]
Canghellor Floella Benjamin OBE, DLitt (Hon)
Is-lywydd Professor Steve Smith
Is-ganghellor Sir Steve Smith
Pennaeth Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig ex officio
Myfyrwyr 17,950 (2010/11)[2]
Israddedigion 13,335 (2010/11)[2]
Ôlraddedigion 4,615 (2010/11)[2]
Lleoliad Caerwysg, Dyfnaint
Tremough, Cernyw, Baner Lloegr Lloegr
Campws Streatham - 350 acer[3]

Tremough - 70 acer[4]
St. Luke's 16 acer

Cyn-enwau Coleg Prifysgol Caerwysg
Lliwiau Gwyrdd a gwyn
Tadogaethau 1994 Group
Association of Commonwealth Universities
450px-University of Exeter new logo.svg.png
Gwefan http://www.exeter.ac.uk

Prifysgol yng Nghaerwysg, Dyfnaint, de Lloegr ydy Prifysgol Caerwysg (Saesneg: University of Exeter). Lleolir y rhan fwyaf o'i gweithgareddau yn ninas Caerwysg, lle mae'n brif sefydliad addysg uwch yr ardal. Mae'n aelod o'r 1994 Group, rhwydwaith o brifysgolion yn y Deyrnas Unedig sy'n gwneud ymchwil dwys.

Mae gan Brifysgol Caerwysg dri champws, sef Streatham, St Luke's yng Nghaerwysg, a Tremough yng Nghernyw. Caiff campws Tremough ei gynnal ar y cyd gyda Coleg Prifysgol Falmouth dan fenter Combined Universities in Cornwall (CUC).

Arfbais[golygu]

Mae arfbais y brifysgol yn symbol o gysylltiadau hanesyddol y brifysgol gyda'i lleoliad. Daw'r castell aur trionglog gyda'i thri thŵr o arfbais Caerwysg, a chredir iddi gynyrchioli Castell Rougemont fel yr awgryma'r cefndir coch. Daw'r 15 Besant aur o amgylch ymyl yr arfbais o arfbais Cernyw, tra daw'r groes werdd ar y cefndir gwyn o arfbais Cyngor Dinas Plymouth. Symbol o addysg yw'r llyfr gydag ymylon aur a'r arwyddair Lladin "lucem sequimur" ("dilynwn y goleuni").

Hanes[golygu]

Dechreuodd addysg brifysgol yng Nghaerwysg ym 1922, pan drowyd Coleg Goffa Brenhinol Albert yn Goleg Prifysgol De-orllewin Lloegr (University College of the South West of England), a chafodd y coleg ei chynwys ar restr yr athrofeydd a oedd yn gymwys i dderbyn arian gan y Pwyllgor Grantiau Prifysgol. Sefydlwyd y coleg fel athrofa diriogaethol, gan wneud addysg prifysgol ar gael yn weddol leol ar gyfer myfyrwyr o Ddyfnaint, Cernyw, Dorset a Gwlad yr Haf. Fel y bu'r arfer ar gyfer athrofeydd prifysgol newydd yn ne Lloegr yn y 19feg ganrif hwyr a'r 20fed ganrif, roedd y brifysgol yn paratori myfyrwyr ar gyfer graddau allanol Prifysgol Llundain. Pan dyfodd y brifysgol ymhellach yn ystod yr 1930au, enillodd fwy o hunanreolaeth, ond cafodd ei hannibynniaeth lwyr ei ohirio gan ddyfodiad yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd y brifysgol ei siarter frenhinol, gan ddod yn brifysgol annibyl Prifysgol Caerwysg ym mis Rhagfyr 1955. Yn y cyfnod wedi'r rhyfel, daeth Prifysgol Caerwysg yn athrofa cenedlaethol, mewn modd tebyg i nifer o brifysgolion eraill y Deyrnas Unedig, gan ddenu myfyrwyr ledled de Prydain. Fel prifysgol sy'n gwneud ymchwil dwys, mae erbyn hyn yn denu niferoedd mawr o ddigyblion o dramor. Ond, mae gweithgareddau lleol yn parhau, er engraifft drwy addysgu allfurol yn Nyfnaint a Cernyw, a sefydliad Athrofa Astudiaethau Cernyweg yn Truro.

Canghellorion[golygu]

1955–1972 Mary Cavendish, Duges Dyfnaint
1972–1981 Is-iarll Amory of Tiverton KG, PC, GCMG, TD, DL
1982–1998 Syr Rex Richards MA, DPhil, DSc, FRS, FRSC, Hon DSc
1998–2005 Arglwydd Alexander o Weedon, QC, FRSA, Hon. LLD
2006– Floella Benjamin, OBE, DLitt (Hon)

Is-ganghellorion[golygu]

1954–1966 Syr James Cook
1966–1972 Syr John Llewellyn
1973–1984 Yr athro Harry Kay
1984–1994 Syr David Harrison
1994–2002 Syr Geoffrey Holland
2002– Yr athro Steve Smith

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: