Ieithoedd Goedelaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ieithoedd Goidelig)

Mae 'r ieithoedd Goedelaidd, a elwir weithiau yr ieithoedd Gaelaidd, yn grŵp o ieithoedd sy'n cynnwys Gwyddeleg (Gaeilge), Gaeleg yr Alban neu Gaeleg (Gàidhlig) a Manaweg (Gaelg). Rhennir yr ieithoedd Celtaidd sy'n cael eu siarad heddiw yn ieithoedd Goedelaidd ac ieithoedd Brythonaidd, sy'n cynnwys Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.

Cyfeirir at yr iaith gysefin y datblygodd yr ieithoedd Goedelaidd ohoni fel Celteg Q neu Goedeleg ac felly gelwir yr ieithoedd Goedelaidd yn 'ieithoedd Celteg Q' weithiau hefyd, tra gelwir yr iaith gysefin y tyfodd yr ieithoedd Brythonig ohoni yn Gelteg P (Brythoneg: iaith y Brydain Geltaidd ac eithrio gogledd yr Alban, tarddiad yr ieithoedd Brythonaidd). Cadwodd yr ieithoedd Q y sain Celteg *, a daeth yn [k]) yn ddiweddarach. Yn yr ieithoedd Brythonaidd trôdd y sain * yn [p]. Ymhlith hen ieithoedd Celtaidd y cyfandir, ceir y [p] mewn Galeg tra'r oedd Celtibereg yn cadw'r *.

Celteg Galeg Cymraeg Llydaweg Gwyddeleg Gaeleg yr Alban Manaweg
*kʷennos pennos pen penn ceann ceann kione
*kʷetwar- petuarios pedwar pevar ceathair ceithir kiare
*kʷenkʷe pinpetos pump pemp cúig còig queig
*kʷeis pis pwy piv cé (older cia) cò/cia quoi

Credir fod yr ieithoedd Goedelaidd wedi datblygu fel a ganlyn:

Hyd y gwyddys, dim ond yn Iwerddon roedd Goedeleg, tardd-iaith yr ieithoedd Goedelaidd, yn cael ei siarad hyd nes i'r Scotti ymfudo o Iwerddon i orllewin yr Alban rywbryd rhwng y 3g a'r 6g OC.

v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Llydaweg ·Cernyweg ·Cymraeg |Gwyddeleg ·Manaweg ·Gaeleg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.