Wicipedia Saesneg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wikipedia-logo-v2-en.png

Fersiwn Saesneg o Wicipedia yw'r Wicipedia Saesneg (Saesneg: English Wikipedia). Sefydlwyd ar 15 Ionawr 2001, gan gyrraedd dwy filiwn o erthyglau erbyn mis Medi 2007,[1] hwn oedd y fersiwn cyntaf o Wicipedia ac mae'n dal i fod y mwyaf: dros dair gwaith maint y Wicipedia Iseldireg a'r Wicipedia Almaeneg, sef yr ail a'r trydydd mwyaf (Awst 2013). Hyd at 2008, roedd tua 22.5% o holl erthyglau Wicipedia ym mhob iaith yn perthyn i'r fesiwn Saesneg ei hiaith , ond mae'r canran hwn wedi lleihau'n enbyd oherwydd twf Wicipedia yn yr ieithoedd eraill i 14.9% (Awst b2013).[2] Ceir hefyd fersiwn syml ohoni sef Simple English Wikipedia.

Am 24 awr o 18–19 Ionawr 2012, bu blackout ar y Wicipedia Saesneg fel protest yn erbyn dau fesur deddfwriaethol oedd yn mynd drwy Gyngres yr Unol Daleithiau, y Stop Online Piracy Act a'r PROTECT IP Act.

Ystadegau
(Fel ag yr oedd ym Mai 2013)
Cyfrifon Defnyddwyr erthyglau Ffeiliau Admins
19,034,326 4,240,467 806,804 1,448

Ffynonellau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1.  Anjali Rego (2007-09-13). Wikipedia Reaches 2 Million Articles. Tech2.
  2.  Wikimedia Meta-Wiki (2008-09-21). List of Wikipedias.
Net template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.