Rhyngrwyd
Oddi ar Wicipedia
| Rhyngrwyd | |
|
Cyfrifiadur Rhwydweithio cymdeithasol ar-lein |
|
System gysylltiedig o rwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang, sydd ar gael i'r cyhoedd, yw'r rhyngrwyd. Mae'n trosglwyddo amrywiaeth o ddata gan gynnwys lluniau, sain, fideo a thestun, ac yn cludo amrywiaeth o wybodaeth a gwasanaethau. Trosglwyddir y data hyn gyda'r safon Protocol Rhyngrwyd (IP). Y gwasanaethau mwyaf amlwg yn strwythur y rhyngrwyd yw'r we fyd-eang (WWW) ac e-bost, ac hefyd gwasanaethau sgwrsio a throsglwyddo ffeiliau. Mae'r defnyddrwyd ('usenet' neu 'newsnet') hefyd yn bodoli ar y rhyngrwyd.
Nid yw'r rhyngrwyd a'r we fyd-eang yn gyfystyr. Casgliad o ddogfennau hyperdestun yw'r we, a defnyddir y rhyngrwyd i gael mynediad i'r dogfennau hyn. Mae angen cyfrifiadur i gysylltu â'r rhyngrwyd.
[golygu] Hanes y rhyngrwyd
Crewyd y rhyngrwyd yn yr Unol daliaethau America yn 1969 gan adran amddifynnol y llywodraeth. Cafodd y Gwe fyd-eang ei chreu yn CERN yn y Swistir yn yr 1990'au gan ddyn Prydeinig o'r enw Tim Berners-Lee. Mae'r enw net yn dod o'r term Saesneg llawn the internet.