Cyfrifiadur
Dyfais electronig yw cyfrifiadur (neu compiwtar ar lafar gwlad). Gellir ei ddefnyddio fel prosesydd geiriau neu i gadw cronfa ddata er enghraifft. Y ffordd fwyaf cyffredin o gysylltu â'r rhyngrwyd yw trwy gyfrifiadur. Gellir chwarae gemau ar gyfrifiadur hefyd.
Ceir cyfrifiadur llai, cludadwy ers tua 2000 (sef y gliniadur) a ffurf cludadwy llai byth, sef y cledrydd.
Cynnwys |
[golygu] Rhannau
Ceir y canlynol mewn rhai cyfrifiaduron:
- disg-yrrwr caled
- uned brosesu ganolog (CPU)
- monitor neu sgrin
- bysellfwrdd
- Cof: Cof RAM, co-bach, Cof ROM
[golygu] Y Cyswllt Cymraeg
Cyfeirir at yr hyn rydym ni heddiw'n ei adnabod fel cyfrifiadur (ac nid 'cyfrifydd' / 'accountant') gyntaf yn y Gymraeg yn Y Cymro ar y 23 Gorffennaf 1969 gan Owain Owain pan ysgrifennodd, Yn syml, mae'r cyfrifiadur yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno. Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaernïol Eglwys St Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaernïol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!
[golygu] Meddalwedd
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Cysylltiadau allanol