Joi Ito

Oddi ar Wicipedia
Joi Ito
Ganwyd19 Mehefin 1966 Edit this on Wikidata
Kyoto Edit this on Wikidata
Man preswylBoston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Japan Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethymgyrchydd, entrepreneur, venture capitalist, blogiwr, peiriannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Sefydliad Technoleg Massachusetts Edit this on Wikidata
Gwobr/auOII Lifetime Achievement Award, IRI Medal, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata

Joichi Ito (Japaneg: 伊藤穰&#19968) (genwyd 19 Mehefin 1966). Cafodd Joi Ito ei eni yn Japan, ond cafodd o ei magu a'i addysgu yn Unol Daleithiau America. Actifydd, entrepreneur a chyfalafwr mentro ydy o. Mae o'n gweithio efo Technorati a Six Apart Japan, ac yn aelod o fyrddau Creative Commons a Socialtext. Sylfaenydd a CEO cwmni cyfalaf mentro Neoteny Co. Ltd ydy o, ac mae o'n cyfrannu at Metroblogging. Ym mis Hydref, 2004, ymaelododd â bwrdd ICANN a dechreuodd weitho efo nhw yn Rhagfyr yr un flwyddyn.

Mae Ito wedi cael llawer o gydnabyddiaeth am ei ran fel entrepreneur sy'n canolbwyntio ar y rhyngrwyd a cwmnïau technoleg. Mae o wedi sefydlu, ymhlith cwmnïau eraill, PSINet Japan, Digital Garage ac Infoseek Japan. Mae o'n cadw blog, wiki a sianel IRC.

Cafodd Ito ei eni yn Kyoto, Japan. Symudodd o efo ei deulu i Michigan yn yr Unol Daleithiau pan oedd yn bedair oed. Deng mlynedd ymlaen, dychwelodd i Siapan pan dechreuodd ei fam gweithio fel Llywydd ar gyfer is-gwmni Japanaidd Energy Conversion Devices, Inc.