Gwe fyd-eang

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Nodion Gwyddonol", Y Cymro: 23 Gorffennaf 1969. Disgrifiad proffwydol Owain Owain o'r we fyd-eang a'i effaith ar addysg.

Mae'r We Fyd-Eang yn gasgliad o ddogfennau uwch-destun (neu hypertext; gweler HTTP), lle defnyddir y rhyngrwyd i'w cysylltu. Gyda phorwr gwe, gall defnyddiwr weld tudalennau sy'n cynnwys testun, delweddau, sain a fideo, a theithio o dudalen i dudalen gan ddefnyddio hyperlinks.

Dyfeisiwyd y We Fyd Eang gan Tim Berners-Lee a Robert Cailliau pan roeddent yn gweithio yn CERN yng Ngenefa, Y Swistir a Ffrainc yn 1989.

Y tro cyntaf y soniwyd yn Gymraeg am y we oedd ar 23/07/1969 gan y gwyddonydd Owain Owain: 'Yn syml, mae'r gyfundefn hwn o gyfrifyddion (neu gyfrifiaduron) yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno.... Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaerniol Eglwys St Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaerniol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!'[1]

Rhoddwyd y gyfrol Gymraeg gyntaf ar y we yn Rhagfyr 1996, sef cyfrol o farddoniaeth gan Robin Llwyd ab Owain: Rebel ar y we.[2]

Cyfeiriad[golygu]

  1. Gwefan Owain Owain
  2. [www.barddoniaeth.com Rhedeg ar Wydr]
Net template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am gwe fyd-eang
yn Wiciadur.