Robin Llwyd ab Owain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Robin Llwyd ab Owain yn y seremoni cadeirio yn Eisteddfod Bro Delyn, 1991

Bardd ac Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991 yw Robin Llwyd ab Owain (ganwyd Mehefin 1958; enw barddol: Robin Llwyd). Ysgrifennodd yr awdl Merch Ein Amserau mewn dull modern ac yn ôl un o'r beirniad Eirian Davies yn ei feirniadaeth yn y cyfansoddiadau, roedd yr awdl yn "torri tir newydd".

Mae e hefyd wedi ysgrifennu geiriau caneuon e.e. Pedair Oed (Rhys Meirion) a Brenin y Sêr (Bryn Terfel).

Dyw e ddim wedi cyhoeddi cyfrol (papur) o'i waith, ond cyhoeddwyd Rebel ar y We ar y we fyd-eang yn Rhagfyr 1996; hon oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i'w rhoi ar y we fyd-eang.[1][2] Newidiwyd teitl y gyfrol ddigidol hon ar y 22 Mai 2006 i 'Rhedeg ar Wydr'.[3]

Bu'n brifathro am gyfnod o tua 15 mlynedd.

Cynnwys

Llyfryddiaeth [golygu]

Rhannau o fewn cyfrolau [golygu]

  • Er Hwylio'r Haul Comisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch 2005
  • Wyth Cân, Pedair Sioe; Gwasg y Lolfa. Cerddoriaeth Robat Arwyn; geiriau gan Hywel Gwynfryn a Robin Llwyd.
  • Pedair Oed/Mae'r Gân yn ein Huno Dwy gân gan Robat Arwyn a Robin llwyd; Trefniant SATB i 'Pedair Oed'. Trefniant deulais i 'Mae'r gân yn ein huno'.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Llais Llyfrau, Hydref 1997: Erthygl gan Dafydd John Pritchard; Cyhoeddwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru.
  2. Trafodaeth ar Welsh-L yn Chwefror 1997.
  3. Gwefan Robin llwyd

Gweler hefyd [golygu]

Dolenni allanol [golygu]