Blog

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Gwefan gan unigolyn neu grŵp sy'n cael ei diwedddaru yn gyson gyda chofnodion mewn trefn wrth-gronolegol, gan amlaf gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cynnwys megis Blogger, LiveJournal, Nireblog neu Wordpress yw blog.

Mae'r term ''Blog'' yn ddalfyriad o'r term Saesneg ''Web log'', sef cofnod ar y we.

Fel arfer mae cofnod unigol yn cynnwys dolen i wefan arall gyda sylwadau am y ddolen neu gofnod dyddiadur cyhoeddus, ond gellir eu defnyddio ar gyfer sawl perwyl arall. Mae yna hefyd flogiau sydd yn arbennig ar gyfer cofnodi lluniau yn uniongyrchol o ffôn lôn (lônflog) neu wedi eu llwytho o gamera digidol.

Mae blogiau'n cael eu hysgrifennu gan bobl enwog iawn, neu gan bobl cyffredin, a mae modd i ddarllenwyr gynnig sylwadau arnynt. Gall testun blog amrywio o hynt a helynt bywyd personol yr awdur i ganolbwyntio ar bwnc penodol, fel chwaraeon, crefydd neu wleidyddiaeth.[1]

[golygu] Engrheifftiau o flogiau Cymraeg a Chymreig

Mae'r nifer o flogiau sydd ar gael yn y Gymraeg yn parhau i fod yn weddol isel o'i gymharu a ieithoedd eraill tebyg ond daeth cynnydd yn y niferoedd yn nechrau 2003, o bosibl yn sgil dylanwad Morfablog, un o'r blogiau Cymraeg cynharaf, yn unol a thŵf maes-e, gwefan drafod yn Gymraeg, lle bu galw ar bobl i ddechrau blogiau er mwyn cynyddu'r swmp o wefannau a gynhelir yn Gymraeg. Mae cyfran sylweddol o flogiau Cymraeg yn cael eu cynnal gan bobl sy'n byw y tu allan i Gymru, llawer ohonynt gyda dim cysylltiad â Chymru na'r iaith.[2]

Gellir gweld detholiad o gofnodion o flogiau Cymraeg ar y Blogiadur, o flogiau Cymreig cyfrwng Saesneg ar BlogCymru a chymysgedd o rai yn Gymraeg a Saesneg ar welshblogs

[golygu] Lleoleiddio'r patrymlun i'r Gymraeg

Un peth da am flogiau yw eu hygyrchedd a'r gallu i gyfieithu'r patrymlun i'r Gymraeg. Bydd y rhan fwyaf o flogiau Cymraeg a welwch yn uniaith Gymraeg oherwydd hyn. Mae platfform blogio Nireblog wedi ei leoleiddio i'r Gymraeg, ac mae meddalwedd blogio Wordpress ar gael yn Gymraeg.[3][4]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Gweler er engrhaifft, Blog Droed am bêl-droed, Cristnogblog am weithgareddau Cristnogol yng Nghymru, a Blog Vaughan Roderick, blog Golygydd Materion Cymreig y BBC.
  2. (Saesneg) The Blogiadur—A community of Welsh language bloggers Cunliffe, D., a Honeycutt, C. (2008), tud. 6
  3. Fersiwn Cymraeg Nireblog.com
  4. Pecyn iaith Cymraeg WordPress ar meddal.com