WordPress

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sgrinlun o'r bwrdd rheoli
Mae'r erthygl yma am y meddalwedd blogio. Ar gyfer y lletywr blogiau, gweler WordPress.com

Meddalwedd blogio a system rheoli cynnwys cod agored a rhydd ydy WordPress wedi ei selio ar PHP a MySQL. Mae ganddo sawl nodwedd gan gynnwys pensaernïaeth ategion a system patrymluniau. Mae WordPress yn cael ei ddefnyddio gan dros 16.7% o'r "miliwn prif wefan" yn ôl cwmni dadansoddi data'r we Alexa Internet ac o Awst 2011, dyma oedd yn gyrru 22% o holl wefannau newydd.[1] Ar hyn o bryd WordPress ydy'r system blogio mwyaf poblogaidd ar y we.[2][3]

Rhyddhawyd yn gyntaf ar 27 Mai 2003, gan Matt Mullenweg a Mike Little.[4][5] Erbyn Rhagfyr 2011, roedd fersiwn 3.0 wedi cael ei lawr lwytho dros 65 miliwn o weithiau.[6]

Cyfeiriadau [golygu]

Dolenni allanol [golygu]