Ffôn symudol

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Esblygiad Ffonau Symudol

Ffôn di-wifr, cludadwy, bychan a ddefnyddir i drosglwyddo llais neu ddata i ffôn arall yw ffôn llaw neu ffôn symudol neu, weithiau, ffôn lôn (Saesneg: Mobile phone neu mobile).

Teclun electronig ydyw sy'n trosglwyddo'r wybodaeth yn ddigidol o orsaf (neu fast) i orsaf, ar ffurf rhwydwaith. Gall drosglwyddo sawl math o wasanaeth megis GSM, a SMS i ddanfon neges destun, ebost, neu gysylltiad gyda'r rhyngrwyd, gemau, bluetooth, cyfathrebu isgoch (infrared), fideo ac MMS a ddefnyddir i ddanfon a derbyn delweddau a fideo.

Cynnwys

[golygu] Datblygiad

Yn ôl dogfennau mewnol y cwmni American Telephone & Telegraph, bu trafodaethau yngŷn â datblygu ffôn diwifrau yn 1915, ond roedd y cwmni'n ofni y byddai rhyddhau ffonau o'r fath yn tanseilio ei fonopoli ar y ffôn wifren yn yr Unol Daleithiau.

Lansiwyd y ffôn llaw cyntaf ar y farchnad yn Siapan a hynny yn 1978. Erbyn Tachwedd 2007 roedd 3.3 biliwn ohonynt wedi cael eu gwerthu led-led y byd h.y. roedd 'na 1 ffôn i bob dau berson ar y blaned! Mae hyn yn gwneud y ddyfais defnyddiol hwn y teclun electronig mwyaf poblogaidd yn y byd.[1] Y ffôn cyntaf i ddarparu cysylltiad i'r rhyngrwyd ac ebost oedd y Nokia Communicator a lansiwyd yn 1996, lansiad a sefydlodd math newydd a drudfawr o ffonau symudol a alwyd yn ffonau clyfar (neu smartphones). Yn 1999 cynigiodd gwasanaeth i-mode a WAP gan NTT DoCoMo yn Siapan, gwasanaeth rhyngrwyd i weithio law-yn-llaw gyda'r cyfrifiadur.

[golygu] System o gelloedd

Mast Ffonau Symudol

Signal radio sy'n cael ei ddanfon a'i dderbyn gan y ffôn llaw a hynny mewn ardal gellog (cell site) gyda mast neu dŵr, polyn neu adeilad yn gwneud y gwaith odrwy gyfrwng meicrodonnau radio wedi'u cysylltu â rhwydwaith cebl cyfathrebu a system switsys (switching system). Mae gan y ffôn symudol trosglwydydd bychan i drosglwydo llais a data i'r ardal gellog agosaf (sydd fel arfer o fewn 8 i 13 km i ffwrdd.

Roedd rhai ffonau ar y cychwyn yn defnyddio trosglwydydd allanol (y carphone er enghraift wedi'i leoli yn y car) a chyfyngwyd pwer y trosglwyddydd i lai na 3 Watt ERP neu Pwer Ymbelydrol Effeithiol (Effective Radiated Power). Erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r trosglwydydd yn y ffôn llaw - a hwnnw wedi'i leoli o fewn milimetrau i'r pen. Gosodwyd uchafwsm o 0.6 Watt o bwer ar y ffonau hyn. Er bod y ffonau modern yn saffach, mae nhw gryn dipyn yn wanach ac felly mae' rhaid cael mwy o fastiau - a'r rheiny'n nes at ei gilydd. Yng nghefn gwlad Cymru, mae hyn yn amlwg; er bod rhai mastiau wedi eu cuddliwio'n grefftus i edrych fel coed!

[golygu] Y Ffonau

Nokia sy'n cynhyrchu fwyaf o ffonau symudol gan gipio 40% o'r farchnad yn 2008. Yn eu dilyn y mae: Samsung (14%), Motorola (14%), Sony Ericson (9%) ac LG gyda 7%. [2] Dyna i chi 80% o'r farchnad wedi'i gymryd gan lond dwrn o gwmniau.

Anelwyd gwahanol fathau o ffonau at wahanol haenau o gymdeithas e.e. anelwyd y RIM Blackberry ar gwsmeriaid corfforaethol a'u defydd helaeth o ebost; ac anelwyd y SonyEricsson Walkman (musicphones) at y cerddor, y gyfres Cybershot (cameraphones) ar gyfer y ffotograffydd a chyfres Nokia N fel camera aml-gyfrwng. Mae hyn i gyd yn bosib gan fod y co-bach (neu'r memory stick yn Saesneg) wedi cynyddu yn ei faint mor aruthrol.

[golygu] Ffôn Symudol Cymraeg

Ffôn symudol newydd Samsung

Ym mis Awst 2009, cyhoeddodd y cwmni ffôn Samsung ei fod am wneud hanes yn y diwydiant ffonau symudol trwy gynhyrchu meddalwedd rhyngwyneb ffôn symudol yn yr iaith Gymraeg - y ffôn Cymraeg cyntaf yn y byd. Mae'r cwmni'n gweithio mewn partneriaeth efo Orange ac fe fydd y model S5600 yn arddangos yn y siopau o'r 1 Medi 2009. Fe fydd gan y ffôn eiriadur efo 44,000 gair Cymraeg ar gyfer negeseuon testun rhagfynegi (predictive text) a dewislenni hollol Gymraeg.[3] [4][5][6]

[golygu] Cyfeiriadau

[golygu] Dolenni allanol