Ffôn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffôn busnes 'Touch Tone' llinell sengl.

Talfyriad o'r gair 'teleffon' ydy ffôn.

Daw'r gair 'teleffon' allan o'r geiriau Groeg tele (τηλέ) sy'n golygu "pell" a phoné ('ffôn') (φωνή) sef "llais". Dyfais yw e' a ddefnyddir i drosgwlyddo a derbyn sain, llais a thestun, ac ers 2006: llun a fideo. Fel arfer dau berson sy'n cysylltu â'i gilydd, ond weithiau dri neu rhagor. Erbyn hyn ceir mwy nag un (ar gyfartaledd) gan bob person ar y blaned. Mae'n weithio drwy signalau electronig yn cael eu trosglwydo drwy rwydwaith cymhleth o wifrau neu'n ddi-wifr, drwy'r aer.

Mae'n ddyfais defnyddiol mewn llenyddiaeth er mwyn cyfleu cynildeb ac fe'i ddefnyddiwyd, er enghraifft, gan Gwenlyn Parry yn ei ddrama Saer Doliau ac ar ddiwedd awdl gyfoes. Defnyddir y gair 'crud' yn y Gymraeg am y ffurf hen ffasiwn, ble rhoddir y rhan symudol i orwedd yn y prif ran h.y. 'rhoi'r ffôn yn ei grud.'

Braslun[golygu]

Drwy ddwy linell o weiren wedi'u cyfrodeddu o gwmpas ei gilydd, gellir trosglwyddo gwybodaeth gan gynnwys: ffacs, telex, rhyngrwyd a mathau eraill. Mae'r 'alwad' i alw'r person at y ffôn, bellach, yn amrywio'n fawr o'r caniad un nodyn traddodiadol i blips digidol a hyn yn oed ganeuon neu seiniau eraill. Fe ddaeth y ddwy linell cordeddog yn wreiddiol gan nad oeddent yn cymysgu galwadau gwahanol 'interference' neu 'crosstalk'.

Ceir dau fath o ffôn: ffôn llaw (diwifr) a ffonau gyda weien yn eu cysylltu.

Ffôn 1896 o Sweden.

Rhifau ffôn yng ngwledydd Prydain[golygu]

Hanes[golygu]

Ceir cryn ddadlau ynglŷn â phwy wnaeth ddyfeisio'r ffôn. Yn bennaf gan i sawl person ddyfeisio rhannau gwahanol, ar amseroedd gwahanol. Yn eu plith y mae: Innocenzo Manzetti, Antonio Meucci, Johann Philipp Reis, Elisha Gray, Alexander Graham Bell, a Thomas Edison.

Roedd gan rhai ffonau nad oeddent wedi eu cysylltu i gyflenwad trydan magneto neu generadur bychan i'w weindio er mwyn creu cerrynt i weithio'r ffôn.

Datblygiadau Cynnar[golygu]

1844 — Innocenzo Manzetti yn codi'r syniad o fedru siarad drwy'r "telegraph".

26 Awst 1854 — Charles Bourseul yn cyhoeddi erthygl yn L'Illustration (Paris) : "Transmission électrique de la parole".

22 Awst 1865 - La Feuille d'Aoste yn cofnodi “It is rumored that English technicians to whom Mr. Manzetti illustrated his method for transmitting spoken words on the telegraph wire intend to apply said invention in England on several private telegraph lines.”

28 Rhagfyr 1871 — Antonio Meucci yn ffeilio patent (rhif.3335) yn yr Unol Daleithiau dan y teitl "Sound Telegraph", gan ddisgrifio cyfathrebu rhwng lleisiau dau berson.

1874 — Meucci, yn methu codi arian i dalu am hawlfraint / patent ychwanegol.

6 Ebrill 1875 — Patent Bell yn yr Unol Daleithiau (Patent 161,739) "Transmitters and Receivers for Electric Telegraphs" yn cael ei ganiatau.

11 Chwefror 1876 — Gray yn dyfeisio trosglwydydd yn cynnwys hylif i'w ddefnyddio gyda'r ffôn, ond nid yw'n creu un.

14 Chwefror 1876 — Elisha Gray yn ffeilio patent caveat i drosglwyddo'r llais dynol.

14 Chwefror 1876 — Alexander Graham Bell yn hawlio patent "Improvements in Telegraphy", dros ffonau electromagnetig.

19 Chwefror 1876 — Swyddfa Batent yr Unol Daleithiau yn rhoi gwybod i Gray fod gwrthdynu rhng ei 'caveat' ef a chais Bell. Gray yn penderfynu rhoi'r ffidil yn y to.

7 Mawrth 1876 — Patent 174,465 Bell "Improvement in Telegraphy" yn cael ei ganiatau; hwnnw'n rheoli "the method of, and apparatus for, transmitting vocal or other sounds telegraphically … by causing electrical undulations, similar in form to the vibrations of the air accompanying the said vocal or other sound."

10 Mawrth 1876 — Y sgwrs ffôn clir cyntaf pan ddywedodd Bell i fewn i'w ddyfais newydd, "Mr. Watson, come here, I want to see you.” a Watson yntau'n clywed pob gair yn glir fel jin.

30 Ionawr 1877 — Patent rhif 86,787 Bell yn cael ei ganiatau.

27 Ebrill 1877 — Thomas Edison yn ffeilio am batent ar ei drosglwydydd graffeit (carbon). Hwnnw'n cael ei ganiatau.

Patentau[golygu]

  • US 174,465 -- Telegraphy (Patent cyntaf Bell) -- Alexander Graham Bell
  • US 186,787 -- Electric Telegraphy (permanent magnet receiver) -- Alexander Graham Bell
  • US 474,230 -- Speaking Telegraph (graphite transmitter) -- Thomas Edison
  • US 203,016 -- Speaking Telephone (carbon button transmitter) -- Thomas Edison
  • US 222,390 -- Carbon Telephone (carbon granules transmitter) -- Thomas Edison
  • US 485,311 -- Telephone (solid back carbon transmitter) -- Anthony C. White (Bell engineer) Cynllun a ddefnyddiwyd hyd at 1940au.
  • US 3,449,750 -- Duplex Radio Communication and Signalling Appartus—G. H. Sweigert
  • US 3,663,762 -- Cellular Mobile Communication System—Amos Edward Joel (Bell Labs)
  • US 3,906,166 -- Radio Telephone System (DynaTAC ffôn llaw) -- Martin Cooper et al. (Motorola)
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am ffôn
yn Wiciadur.