Breinlen
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Patent)
Plat metal yn disgrifio patent 'ejector seat' awyren filwrol, a hwnnw'n disgrifio hawliau rhyngwladol gwledydd megis Gwledydd Prydain, De Affrica a Canada. Daw'r ddelwedd o Amgueddfa Hedfan Dübendorf.
Set o hawliau unigryw a roddir gan y goron neu wladwriaeth am gyfnod o amser i ddyfeisiwr pan mae'n cyflwyno disgrifiad o ddyfais yw breinlen neu 'patent'.
Mae gan wledydd y byd gytundebau ynglŷn â phatentau a gwarchod hawliau'r dyfeisiwr. Fel arfer mae'n ofynol i'r ffurflen gais i gael patent ddisgrifio dyfais:
- newydd
- dyfeisgar
- defnyddiol
- y gellir ei gymwyso ar gyfer diwydiant
Ni ellir rhoi patent am syniad na 'methodau' busnes.
Mae'r patent, fel arfer, yn gwahardd unrhyw berson arall rhag gwneud, defnyddio, gwerthu, cynnig gwerthu neu fewnforio'r ddyfais.