Gwenlyn Parry
Dramodydd Cymraeg sy'n adnabyddus am ei dramâu arloesol sy'n perthyn i genre Theatr yr Abswrd oedd Gwenlyn Parry (1932 - 5 Tachwedd 1991).
Roedd yn frodor o bentref Deiniolen, Gwynedd. Cafodd ei addysg yn y Coleg Normal, Bangor. Ar ôl cyfnod yn Llundain lle daeth i adnabod Rhydderch Jones a Ryan Davies a chyfnod fel athro ym Methesda, cafodd swydd fel sgiptiwr gyda BBC Cymru. Ar ôl cyfnod o salwch bu farw yn ardal Caerdydd ar 5 Tachwedd 1991; cafodd ei gladdu ym mynwent Pen-y-groes, Gwynedd.
Ysgrifenodd nifer o benodau i'r gyfres Pobol y Cwm a rhaglenni eraill ar y teledu, ond fe'i cofir fel dramodwr yn bennaf am ei ddramâu arloesol o'r 1960au hyd y 1980au. Mae'r rhain yn cynnwys Saer Doliau (1966) ac Y Tŵr (1978). Cryfder y dramâu hyn yw eu cyfuniad o elfen Abswrd, gwrthnaturyddol, a deialog dafodieithol naturiol a chredadwy sy'n creu gwaith arbennig ac unigryw.
Cyfranodd i sgript y ddrama deledu Grand Slam a'r ffilm o Un Nos Ola Leuad (seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Caradog Prichard).
Dramâu [golygu]
- Tair Drama (1965)
-
- Y Ddraenen Fach (1961)
- Poen yn y Bol (1963)
- Hwyr a Bore (1964)
- Saer Doliau (1966)
- Tŷ ar y Tywod (1968)
- Y Ffin (1973)
- Y Tŵr (1978)
- Sál (1982)
- Panto (1986)