Ryan Davies
Canwr a digrifwr Cymreig oedd Ryan Davies (22 Ionawr 1937 - 22 Ebrill 1977), dyn a'i wreiddiau yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin. Gweithiai yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cafodd ei addysg uwch yn y Coleg Normal, Bangor, ac Ysgol Ganolog Drama Llundain. Ar ôl bod yn athro yn Llundain am flynyddoedd, lle daeth i adnabod y dramodydd Gwenlyn Parry, daeth yn ôl i Gymru i weithio yn llawn amser fel canwr a chomedïwr, gyda chontract â BBC Cymru. Gweithiai ar y cyd â Ronnie Williams, ei bartner yn y sioe boblogaidd Ryan a Ronnie, ac yn y gyfres Fo a Fe yn rhan yr Hwntwr 'Twm Twm'. Roedd yn un o berfformwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd, a bu ei farwolaeth sydyn yn ddeugain oed, ar ei wyliau yn Buffalo, Efrog Newydd, yn ysgytwad fawr yng Nghymru.
Cynnwys |
Gwaith [golygu]
Caneuon a gyfansoddodd [golygu]
- Ceiliog y Gwynt
- Nadolig Pwy a Ŵyr
- Blodwen a Mary
Teledu [golygu]
Ffilmiau [golygu]
Llyfryddiaeth [golygu]
Cyhoeddwyd detholiad o ganeuon Ryan Davies yn 1983.
- Rhydderch Jones, Cofiant Ryan (1970)
- Rhydderch Jones, Ryan (1980)