Meredydd Evans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Dr Meredydd Evans (ganwyd Llanegryn, Cymru 9 Rhagfyr 1919) yn gasglwr, golygydd, hanesydd a chanwr gwerin Cymraeg.

Ganwyd Meredydd Evans (neu Merêd, fel y caiff ei adnabod) yn Llanegryn ym Meirionnydd, a chafodd ei fagu yn Nhanygrisiau[1] Roedd ei fam yn canu caneuon gwerin Cymraeg iddo pan oedd e'n blentyn.[2] Datblygodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor gyda Mrs. Enid Parry. Yn 1954 recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i Folkways Records yn Efrog Newydd pan oedd e'n astudio Ph.D. mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Princeton. Ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru, golygodd Merêd a'i wraig Phyllis Kinney dri chasgliad o ganeuon Cymraeg.[3]

Yn 2012, ymddangosodd Merêd ar yr albwm Bethel gan Gai Toms, yn canu deuawd o'r enw Cân y Dewis [4]

Cynnwys

Cyhoeddiadau [golygu]

  • Hume Gwasg Gee, Dinbynch. 1984.
  • Merêd: detholiad o ysgrifau Dr. Meredydd Evans (gol Geraint Huw Jenkins, Ann Ffrancon), Gomer, Llandysul, 1994.
  • Canu'r Cymry Cyfrol 1&2. Welsh Folk Songs. Welsh Folk-Song Society.

Recordiadau [golygu]

  • Merêd - Caneuon Gwerin 2005 (albwm dwbl, Sain SCD2414)

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Meic Stephens (ed.), 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' (Caerdydd, 1997).
  2. Meredydd Evans, Welsh Folk-Songs: Sung by Meredydd Evans (New York:Folkways Records); adalwyd 30/06/2012
  3. Sain (Recordiau) Cyf. (Caernarfon, Wales)
  4. Gwefan gaitoms.com

Dolenni allanol [golygu]