Rhydian Roberts

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhydian Roberts
Rhydian Roberts ac YGA.jpg
Ganwyd 14 Chwefror, 1983
Pontsenni, Powys, Cymru
Yn enwog am X Factor
Galwedigaeth Canwr

Canwr operatig Cymreig ydy Rhydian Roberts (ganed 14 Chwefror, 1983). Yn wreiddiol o Bontsenni, mae'n fwyaf adnabyddus am ymddangos ar y bedwaredd gyfres o'r sioe dalentau'r Deyrnas Unedig The X Factor pan ddaeth yn ail i Leon Jackson.

Ar y 21 Medi, 2009 cadarnhawyd y byddai ei ail albwm, O Fortuna, yn cael ei ryddhau ar y 30 Tachwedd, 2009.

Ar 20 Tachwedd, 2009 ymddangosodd Rhydian ar raglen Plant mewn Angen y BBC.