Un Nos Ola Leuad

Oddi ar Wicipedia
Un Nos Ola Leuad
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurCaradog Prichard Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1961 Edit this on Wikidata
Genrenofel Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithBethesda Edit this on Wikidata
Erthygl am y nofel yw hon. Am y ffilm o'r un enw gweler Un Nos Ola Leuad (ffilm).

Nofel enwog gan Caradog Prichard yw Un Nos Ola Leuad, a gyhoeddwyd yn 1961.

Adroddir y stori gan brif gymeriad y nofel sy'n dychwelyd i'r ardal ac yn cerdded ar daith ar hyd y lôn ar noson ola leuad, a llifa'r atgofion amdano yn blentyn yn ôl. Mae'r cefndir a nifer o'r digwyddiadau yn ymdebygu i fywyd personol yr awdur ei hun, Caradog Prichard. Cyhoeddwyd y nofel yn 1961. Yn ôl nifer o feirniaid llenyddol mae hi gyda'r nofel Gymraeg orau erioed.[1][2]

Ysgrifennwyd y nofel yn y person cyntaf, yn nhafodiaith ardal chwareli Bethesda. Mae arddull y nofel yn ymylu ar arddull 'llif yr ymwybod'. Gosodir y nofel yng nghyfnod plentyndod Caradog Prichard yn Nyffryn Ogwen ar ddechrau'r 20g ac fe ddigwyddodd rhai o ddigwyddiadau'r nofel i'r awdur ei hun. Cymerwyd mam y prif gymeriad a mam yr awdur fel ei gilydd i'r seilam.

Mae dylanwad James Joyce ar y nofel, yn arbennig Finnegans Wake.[3]

Ymhlith prif themau'r nofel mae gwallgofrwydd, tlodi a diniwedrwydd plentyn.

Mae'r nofel hon yn llyfr gosod yn arholiad TAG UG/U CBAC.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

  • Yr Adroddwr
  • Y Bachgen
  • Y Fam
  • Tada
  • Brenhines y Llyn Du
  • Moi
  • Huw
  • Nain
  • Anti Elin
  • Guto
  • Canon
  • Ceri
  • Jini Bach Pen Cae
  • Yncl Wil
  • Wmffra Tŷ Top
  • Elwyn Pen Rhes
  • Em Brawd Now Bach Glo
  • Ffranc Bee Hive
  • Harri Bach Clocsia
  • Preis Sgŵl
  • Wil Elis Portar
  • Yncl Now Moi
  • Wil Colar Starts
  • John Elwyn
  • Leusa Tŷ Top
  • Gres Elin Siop Sgidia

Rhan o adolygiad Gwales[golygu | golygu cod]

O ddarllen y nofel ar ei hyd, yn hytrach na fesul gwers, mae’r undod yn dod yn amlwg a’r llif yn cyflymu wrth inni glosio tuag at y diwedd anorfod.

I mi, mae hi’n nofel dristach nag oedd hi ddeng mlynedd yn ôl hefyd, a’r tywyllwch yn fy llyncu’n fwy cyfan gwbl rywsut. Pry cop ar drugaredd ei we yw’r bachgen, yn union fel hwnnw sy’n ceisio dianc drwy ffenest ar ddechrau’r bedwaredd bennod ar ddeg. ‘Dyna lle oedd o’n cerddad ar hyd y gwydyr . . . cerddad am dipyn bach a cael codwm, a mynd yn ei ôl a cerddad a cael codwm wedyn. Ond oedd o byth yn syrthio ar lawr achos oedd gwe pry cop run fath a lastig yn ei ddal o’n hongian pan oedd o’n cael codwm, a dyna sud oedd o’n medru dŵad yn ei ôl ar ffenast bob tro.’ Ond breuo y mae’r lastig gyda phob ergyd a ddaw i ran y bachgen, hyd nes nad oes dim i’w godi wedi’r codwm olaf.[4]

Cyfieithiadau[golygu | golygu cod]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)
  2. Llyfr y Ganrif, Gwyn Jenkins, Andy Misell, Tegwyn Jones (Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Lolfa, 1999)
  3. Emyr Llywelyn yn Y Faner Newydd 2013
  4. gan Nia Peris http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9781871734003/?session_timeout=1
  5. https://waleslitexchange.org/cy/news/view/polish-translation-of-un-nos-ola-leuad-by-caradog-prichard-published