Neges destun

Oddi ar Wicipedia
Danfon Neges Destun o ffôn llaw

Dyma'r term cyffredin am ddanfon neges fer - 160 llythyren / symbol neu lai o ffôn llaw i ffôn llaw drwy 'Short Messaging Service' sef SMS. Fe geir y cyfrwng hwn ar y rhan fwyaf o ffonau a rhai teclunau personol (y 'personal digital assistant'). Yn Saesneg fe'i gelwir yn text messages neu, ar lafar yn texts.

Fel arfer, Mae'r iaith yn gael ei defnyddio yn neges destun yn fyrhau na'r iaith safonol, a felly mae'r iaith testun yn datblygu trwy defnyddio'r iaith go iawn trwy dull neges destun.

Hanes[golygu | golygu cod]

Anfonwyd y neges destun SMS gyntaf dros rwydwaith GSM Vodaphone yn y Deyrnas Unedig ar 3 Rhagfyr 1992. Neil Papworth o Sema Group (Mavenir Systems erbyn hyn) anfonodd y neges o gyfrifiadur personol i Richard Jarvis o Vodaphone, oedd yn defnyddio ffôn Orbitel 901. Testun y neges oedd "Merry Christmas".

Yn 2010, anfonwyd 6.1 triliwn neges destun, bron i 200,000 bob eiliad.[1]

Er fod defnydd SMS yn tyfu o hyd, yn gynyddol mae'n wynebu cystadleuaeth o wasanaethau eraill sydd ar gael ar ffônau clyfar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) The World in 2010. Undeb Telegyfathrebu Rhyngwladol (ITU). Adalwyd ar 23 Tachwedd 2012.
Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Chwiliwch am neges destun
yn Wiciadur.