Wicipedia Almaeneg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo Wicipedia Almaeneg
Sgrinlun o Hafan y Wicipedia Almaeneg

Fersiwn Almaeneg o Wicipedia yw'r Wicipedia Almaeneg (Almaeneg: Deutschsprachige Wikipedia). Datganwyd ei sefydliad ar 16 Mawrth 2001, gan Jimmy Wales.[1] Yr enw gwreiddiol oedd deutsche.wikipedia.com, hwn oedd y fersiwn cyntaf o Wicipedia mewn iaith heblaw Saesneg, ac mae'n dal i fod yr ail fwyaf, treuan maint Wicipedia Saesneg, sef y mwyaf.

Hyd Medi 2008, mae drost 800,000 o erthyglau ar y Wicipedia Almaeneg,[2]. Ym mis Chwefror 2008, rodd 89% o'r erthyglau drost 512 beit, a 47% drost 2 cilobeit, cyfartaledd maint erthygl oedd 3330 beit.[3] Roedd gan y rhifyn hwn 125,000 o fywgraffiadau, a drost 48,500 o dudalennau gwahaniaethu.[4]

Gwahaniaethau[golygu]

Mae'r Wicipedia Almaeneg yn wahanol i'r Wicipedia Saesneg mewn sawl modd:

  • Mae'r dull o benderfynnu a yw erthygl yn haeddu ei lle (sef Amlygrwydd) yn wahanol i'r Saesneg ac yn debycach i'r llinynnau mesur a ddefnyddir ar y Wicipedia Cymraeg. Barn y golygyddion a geir yn hytrach na rheolau caeth megis: "a oes erthygl dudalen flaen wedi bod ar y gwrthrych - a hynny mewn papur newydd cenedlaethol?" Fe geir rheolau ond mae'n nhw'n wahanol ar gyfer gwahanol feysydd a themâu.[5]
  • Ni ddefnyddir y drwydded "Defnydd Teg" ar y Wici Almaeneg. Mae'r categori o luniau Defnydd Teg a ddefnyddir ar y Wicipedia Saesneg a Chymraeg yn annerbyniol ar y Wici Almaeneg, oherwydd deddfau hawlfraint gwahanol.[6] Fodd bynnag caniateir llawer mwy o weithiau gwreiddiol celfyddydol - ac mae hyn yn cwmpasu logos cwmniau hefyd, na chaniateir ar y Wicipedia Saesneg.
  • Rhoddir blaenoriaeth i ffynonellau dibynadwy, ysgolheigaidd yn hytrach na ffynhonnellau newyddiadurol a'i math. Caniateir ffynonellau o bapurau newydd yn unig os nad oes unrhyw ffynhonnell gadarnach ar gael.[7]
  • Mae'n rhaid i erthyglau ar wrthrychau sy'n haeddu eu lle o ran amlygrwydd orfod fod o safon; oherwydd hyn nid oes y fath beth â "eginyn" neu "stubs" yn bodoli. Ni ddefnyddir hyd erthygl, neu sawl gair sydd ynddi fel llinyn mesur, eithr pa mor dda mae wedi'i hysgrifennu h.y. ansawdd yr erthygl, nid ei faint.[8]

Ffynonellau[golygu]

  1. Jimmy Wales: [Wikipedia-l] Alternative language wikipedias, 16 Mawrth 2001
  2. Ystadegau Wicipedia Almaeneg
  3. http://stats.wikimedia.org/EN/TablesWikipediaDE.htm Ystadegau, 19 Mehefin 2008
  4. http://de.wikipedia.org/wiki/Spezial:Mostlinked 29 Rhagfyr 2006
  5. ""Relevanzkriterien" (canllawiau Amlygrwydd)". 13 Ionawr 2009. http://de.wikipedia.org/w/index.php?oldid=55275214. Adalwyd 13 Ionawr 2009. 
  6. ""Bildrechte" (image rights)". 10 Ionawr 2009. http://de.wikipedia.org/w/index.php?oldid=55164140#Fair_use. Adalwyd 13 Ionawr 2009. 
  7. "Wikipedia:Belege – Wikipedia" (in (Almaeneg)). De.wikipedia.org. http://de.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Belege. Adalwyd 20 Rhagfyr 2010. 
  8. http://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Stub, http://de.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Stub
Net template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.