Wicipedia:Hawlfraint
Oddi ar Wicipedia
Cynnwys |
[golygu] Hawlfraint
Diben Wikipedia yw creu cronfa o wybodaeth ar ffurf gwyddoniadur sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Mae'n trwydded yn rhoi caniatâd i ddefnyddio ein cynnwys ni yn yr un ystyr ag y trwyddedir meddalwedd rhydd. Hynny yw, fe gaiff pawb gopio, newid, ac ailddosbarthu cynnwys Wikipedia ar yr amod y bydd y fersiwn newydd yn rhoi'r un rhyddid i eraill ac yn cydnabod mai Wikipedia yw'r ffynhonnell. Fe erys erthyglau Wikipedia gan hynny yn rhydd, yn rhad ac am ddim am byth. Fe gaiff pawb eu defnyddio yn amodol ar ychydig o gyfyngiadau, a'r mwyafrif ohonynt yn bodoli er mwyn sicrhau'r rhyddid hynny.
I gyflawni'r amcanion uchod, trwyddedir y testunau yn Wikipedia i'r cyhoedd yn unol ag amodau'r GNU Free Documentation License (GFDL). Ceir testun llawn y drwydded hon yma: Wikipedia:Text of the GNU Free Documentation License.
- Caniateir copio, dosbarthu a newid testun pob deunydd yn Wikipedia yn unol ag amodau'r GNU Free Documentation License, Version 1.2 neu unrhyw fersiwn ddiweddarach a gyhoeddir gan y Free Software Foundation; heb yr un Invariant Section, na'r un Front-Cover Text, na'r un Back-Cover Text.
Testun y GFDL yw'r unig ddogfen gyfreithiol rwymol; ein dehongliad ni o'r GFDL a ganlyn: hawliau a rhwymedigaethau defnyddwyr a chyfranwyr.
PWYSIG: Os byddwch am ddefnyddio cynnwys o Wikipedia, dylid darllen yr adran Hawliau a rhwymedigaethau defnyddwyr. Dylid wedyn ddarllen y GNU Free Documentation License.
[golygu] Hawliau a rhwymedigaethau defnyddwyr
Os byddwch am ddefnyddio defnyddiau Wikipedia yn eich llyfrau, erthyglau, gwefannau neu gyhoeddiadau eraill, cewch wneud hynny, ond rhaid dilyn y GFDL a'r canlynol:
- rhaid trwyddedu'ch defnyddiau chithau dan GFDL,
- rhaid cydnabod pwy yw awdur yr erthygl (adran 4B), a
- rhaid caniatáu gweld y copi tryloyw ("transparent copy") o'r deunydd (adran 4J). (Y copi tryloyw o erthygl Wikipedia yw ei destun wiki.)
Os mai dim ond dyblygu'r erthygl o Wikipedia y byddwch chi, gallwch gyflawni'r ddau ymrwymiad olaf trwy roi dolen uniongyrchol amlwg yn ôl i'r erthygl Wikipedia a gedwir ar y wefan hon.
Os crewch fersiwn ddeilliadol trwy newid neu ychwanegu cynnwys, rhaid cydnabod pwy yw'r awdur a chaniatáu gweld copi tryloyw o'r testun newydd.
[golygu] Rhybudd enghreifftiol
Dyma rybudd enghreifftiol, sydd yn cydymffurfio â'r GFDL, ar gyfer erthygl sydd yn defnyddio'r erthygl Wikipedia Ffw:
- Trwyddedir yr erthygl hon yn unol ag amodau'r <a href="http://www.gnu.org/copyleft/fdl.html">GNU Free Documentation License</a>. Mae'n defnyddio cynnwys o'r <a href="http://www.wikipedia.org/wiki/Foo">erthygl Wikipedia "Ffw"</a>.
(Rhaid wrth gwrs newid "Ffw" a'r URL Wikipedia'n briodol.)
Yn lle hynny cewch ddosbarthu'ch copi o Ffw ynghyd a chopi o'r GFDL (fel yr esbonnir yn y testun) a rhestru pump o leiaf (neu bob un os bydd llai na phump) o'r prif awduron ar y dudalen deitl (neu ar frig y ddogfen).
[golygu] Defnyddiau "defnydd teg" ag anghenion arbennig
Ar adegau bydd Wicipedia'n cynnwys delweddau, sain, neu ddyfyniadau tesun dan ein polisi "defnydd teg"; ar yr adegau hyn, dylid cydnabod ffynhonnell allanol y gwaith ar dudalen sy'n disgrifio'r ddelwedd neu hanes dudalen y ddelwedd, os yw hynny'n briodol. Fodd bynnag, dylid cofio nad yw'r hyn rydyn ni'n ei ystyried yn "ddefnydd teg" o'r deunydd ddim wastad yr hyn y byddai eraill yn ei ystyried yn deg. Er enghraifft, pan rydym yn nodi defnydd teg ar ddelwedd, rhaid bod yn gwbwl sicr fod eich defnydd teg o'r erthygl hefyd yn wir; fyddai hyn ddim yn wir pe baech yn defnyddio erthgl o Wikipedia at bwrpas masnachol.
Defnyddia Wikipedia beth testun dan drwydded GDFL, ond gydag amodau nad ydym ei angen ar destun gwreiddiol Wikipedia (megis Invariant Sections, Front-Cover Texts, or Back-Cover Texts). Pan ddefnyddir y defnydd hyn, fe ddylech gynnwys yr union eiriad fel y'i ceir yn yr adran briodol.
[golygu] Canllawiau i'r delweddau
Mae delweddau a ffotograffau (yn ogystal â thestun) yn cael eu rheoli gan ddeddfau hawlfraint. Mae rhywun pia nhw, oni bai eu bônt wedi eu rhoi yn y parth cyhoeddus ("public domain". Dylai delweddau o'r we gael eu trwyddedu'n uniongyrchol gan ddaliwr y drwydded neu ddirprwy'r daliwr hwnnw. Ar adegau mae'r canllaw "defnydd teg" (gweler uchod) yn caniatau defnyddio ffotograff.
[golygu] Gweithiau gwreiddiol gan olygwyr Wicipedia
[golygu] Ffotograffau o "hen weithiau celf"
Ychwanegwch y canllawiau yma.
engreifftiau: Mona Lisa, Michelangelo's David
[golygu] Ffotograffau enwog
Ychwanegwch y canllawiau yma.
engreifftiau: Hindenburg disaster, Charles Lindbergh, ayb.
[golygu] Ffotograffau gan lywodraethau
Ni all lywodraeth yr Unol Daleithiau ddim fod yn berchen hawlfraint; ond wedi dweud hynny, tydy pob ffotograff a welir ar .gov neu .mil ddim yn y parth cyhoeddus.
Mae'r rhan fwyaf o lywodraethau eraill y byd yn berchnogion ar ffotograffau (a'r hawlfreiniau ynghlwm a nhw) e.e. mae llywodraeth Prydain Fawr yn dal yr hyn a elwir yn Crown Copyright. Hyd yn oed yn yr UDA, mae llywodraethau'r taleithiau eu hunain, yn aml, yn berchen ac yn cadw eu hawlfraint ar eu gweithiau. Dylid bod yn hynod ofalus, felly, gan wiro pwy yn union ydy perchennog hawlfraint lluniau a ffotograffau cyn eu copio.
[golygu] Ffotograffau o ser y byd
Mae'r canlynol wedi'i seilio ar ganllawiau delweddau IMDB, ac yn berthnasol i ddelweddau o sêr neu enwogion ("celebrities" yn saesneg) yn ogystal a lluniau eraill. Mae ffotograffau cyfreithlon, fel arfer, yn dod o dair ffynhonnell:
- Y stiwdio, cynhyrchwyr, cyhoeddwyr neu gwmniau eraill sy'n ymwneud â'r cyfryngau a dynodd y lluniau gwreiddiol, gyda chaniatád.
- Asiantaethau sy'n cynrychioli'r ffotograffwyr (neu'r ffotograffydd ei hun) a saethodd y llun neu'r ffotograff.
- Cyfraniadau ffotograffig gan y seren ei hun, neu gynrychiolwr cyfreithlon.
[golygu] Hawliau ac oblygiadau Cyfranwyr
Os ydych yn cyfrannu deunyddiau i Wikipedia rydych drwy hynny yn ei drwyddedu i'r cyhoedd o dal y drwydded GFDL ("with no invariant sections, front-cover texts, or back-cover texts").
I wneud hyn, felly, mae'n rhaid i chi fod yn y sefyllfa i ganiatáu'r drwydded, sy'n golygu naill ai:
- chi yw perchennog hawlfraint y deunydd, er enghraifft gan i chi ei greu eich hunain, neu
- y cawsoch y deunydd o ffynhonnell sy'n caniatáu trwydded GDFL, er enghraifft gan fod y deunydd yn y parth cyhoeddus neu wedi'i gyhoeddi dan drwydded GFDL.
Yn yr achos gyntaf, chi yw perchennog trwydded y deunydd. Mae'n bosib i chi rywdro yn y dyfodol aildrwyddedu'r deunydd neu aigyhoeddi'r gwaith gyda thrwydded wahanol. Ond fedrwch chi ddim dynnu yn ôl y drwydded GFDL i'r fersiwn rydych wedi ei osod yma: bydd y deunydd hwnnw yn parhau i ddod o dan drwydded GFDL am byth.
Yn yr ail achos uchod, os ydych yn ymgorffori deunydd GFDL allanol, yna mae'n rhaid i chi (fel rhan o anghenion GFDL) gydnabod awduraeth a darparu dolen yn ôl i'r gwaith gwreiddiol. Os yw'r gwaith hwnnw'n gosod amodau drwy adrannau mae'n rhaid dyfynu'r adrannau hynny a'r testun gwreiddiol yn hytrach na thestun GFDL.
[golygu] Defnyddio gwaith dan hawlfraint gan eraill
Os defnyddiwch ran o waith dan hawlfraint yn unol ag amodau "defnydd derbyniol", neu os cewch ganiatâd arbennig i ddefnyddio gwaith dan hawlfraint gan ddeiliad yr hawlfraint yn unol ag amodau'n trwydded ni, rhaid nodi hynny (ynghyd ag enwau a dyddiadau). Ein perwyl yw gallu ailddosbarthu'n rhydd gymaint o ddefnydd Wikipedia ag y bo modd, felly llawer gwell gennym ddelweddau a ffeiliau sain gwreiddiol a dryddedwyd dan y GFDL neu sydd yn eiddo i'r cyhoedd na ffeiliau media dan hawlfraint a ddefnyddir yn ol amodau defnydd derbyniol. Gweler Wikipedia:Boilerplate request for permission am lythyr ffurfiol i ofyn i ddeiliad hawlfraint drwyddedu inni ddefnyddio'i waith yn unol ag amodau'r GFDL.
Peidiwch byth â defnyddio dim sydd yn torri hawlfraint eraill. Gall hyn greu atebolrwydd cyfreithiol a niweidio'r prosiect yn ddifrifol. Os yn amau, sgrifennwch y peth eich hunan!
Sylwer mai mynegiad creadigol syniadau y mae cyfraith hawlfraint yn ei rheoli, nid y syniadau'r a'r wybodaeth ei hunain. O'r herwydd, mae'n hollol gyfreithlon ddarllen erthygl mewn gwyddoniadur neu mewn gwaith arall, ei llunio o'r newydd yn eich geiriau'ch hunan, ac anfon y canlyniad i Wikipedia. (Gweler llên-ladrata a defnydd derbyniol am drafodaethau ynghylch pa faint o ddiwygio sydd ei angen yn gyffredinol.)
[golygu] Dolennu i ddeunydd sydd mewn hawlfraint
Tydy dolennu i ddeunyddiau sydd mewn hawlfraint ddim fel arfer yn broblem, cyn belled â bod rhywun wedi gwneud ei orau i wiro nad yw'r deunydd (neu'r dudalen) dan sylw ddim yn torri hawlfraint rhywun arall. Os yw, yna ni ddylid dolennu. Byddai gwneud hyn yn sicr yn ein pardduo, a byddech o bosibl yn torri'r gyfraith.
[golygu] Os dewch o hyd i dor-hawlfraint
Nid swydd pob un Wikipedian cyffredin yw plismona pob erthygl am dor-hawlfreintiau, ond os byddwch yn amau testun, fe ddylech nodi hynny ar y dudalen sgwrsio berthnasol. Wedyn gall eraill archwilio'r mater a gweithredu os bydd raid. Y wybodaeth fwyaf defnyddiol y gellwch ei roi yw URL neu gyfeiriad arall i'r hyn sydd yn eich tyb chi yn ffynhonell i'r testun.
Dim ond camrybuddion fydd rhai achosion. Er enghraifft, os yr awdur gwreiddiol a gyfrannodd destun a gyhoeddwyd mewn rhywle arall yn unol ag amodau gwahanol, ni bydd hynny yn effeithio ar ei hawl i'w phostio yma yn unol ag amodau'r GFDL. Hefyd, weithiau fe gewch hyd i destun mewn mannau eraill ar y we a gopïwyd o Wikipedia. Yn y ddau achos hyn, syniad da fydd nodi ar y dudalen sgwrsio y gellir anwybyddu'r fath gamrybuddion yn y dyfodol.
Os bydd rhai o gynnwys yn dor-hawlfraint go-iawn, fe ddylid dileu'r deunydd, a nodi gwneud hynny ar y dudalen sgwrsio, ynghyd â'r ffynhonell wreddiol. Os ceir caniatâd yr awdur wedyn, fe ellir adfer y destun.
Os amheuir mai holl gynnwys tudalen sydd yn torri hawlfraint, fe ddylid rhestru'r dudalen ar Wikipedia:Possible copyright infringements a dodi yn lle cynnwys yr erthygl y rhybudd safonol a gewch yno. Os ymddengys ar ôl wythnos fod y dudalen yn dor-gyfraith o hyd, fe ellir ei dileu gan ddilyn yr weithdrefn ar y dudalen bleidleisio.
O ran cyfranwyr sydd yn dal i bostio deunydd dan hawlfraint ar ôl cael rhybuddion priodol - gall y fath ddefnyddwyr gael eu gwahardd rhag golygu er mwyn amddiffyn y project.
[golygu] Gweler hefyd
- The Wikipedia:Contributing FAQ for questions on copyright.
- Wikipedia's designated agent under OCILLA
- Wikipedia:Sites that use Wikipedia as a source
- Wikipedia:Standard GFDL violation letter
- Wikipedia:Spotting possible copyright violations
Chwaneg o drafod...

