Cyfraith hawlfraint yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
Deddf Hawlfraint 1790 wedi'i hadargraffu yn y Colombian Centinel, a argraffwyd ar 17 Gorffennaf 1790.

Mae Cyfraith hawlfraint yr Unol Daleithiau yn ymgais i hybu'r celfyddydau a diwylliant y wlad drwy wobrwyo awduron ac artistiaid gydag hawliau detholedig.

Mae cyfreithiau hawlfraint Ffederal yn caniatáu hawliau detholedig i awduron ac artistiaid i wneud a gwerthu copiau o'u gwaith yn ogystal â'r hawl i addasu'r gwaith hwnnw a'r hawl i berfformio neu arddangos eu gwaith yn gyhoeddus. Mae'r hawliau hyn i gyd yn ddarostyngedig i gyfnod penodol o amser, sydd fel arfer yn dod i ben ar ôl 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur neu'r artist.

Mae deddf hawlfraint U.D.A. yn cael ei reoli a'i ddiffinio gan Ddeddf Hawlfaraint 1976. Mae'r cyfansoddiad yn caniatáu i'r Gyngres y pwerau i greu deddfau sy'n ymweneud a hawlfraint. Mae ganddi'r pwer i:

To promote the Progress of Science and useful Arts, by securing for limited Times to Authors and Inventors the exclusive Right to their respective Writings and Discoveries. Article 1, Section 8, Clause 8, (the Copyright Clause)

Mae Swyddfa Hawlfraint Unol Daleithiau'r America yn gyfrifol am gofrestru perchnogaeth hawlfraint, cofnodi trosglwyddiad hawlfraint a materion eraill.

Pwrpas hawlfraint[golygu | golygu cod]

Pwrpas hwalfraint yw "hyrwyddo datblygiad gwyddoniaeth a'r celfyddydau, drwy sicrhau am gyfnod i Awduron a Dyfeiswyr hawliau detholedig i'w hysgrifen a'u darganfyddiadau."[1] Mae deddfau hawlfraint cyfredol wedi ehangu'r maes hwn i gynnwys ysbrydoli creu gweithiau celf, llenyddiaeth, pensaeriaeth, cerddoriaeth a gweithiau eraill. Yn hanesyddol, nid yw'r U.D.A. erioed wedi cydnabod yr hawl absoliwt gan awduron i atal eraill rhag copio neu ecsploitio eu gwaith. Gwelwyd hefyd newid yn niffiniadau a dehongliadau amrywiol lysoedd ers y 1970au.

Y math o waith sy'n ddarostyngedig i ddeddfau hawlfraint[golygu | golygu cod]

Mae cyfraith hawlfraint Unol Daleithiau America'n amddiffyn "original works of authorship,"[2] gan gynnwys gwaith llenyddol, cerddorol, dramatig, a gweithiau deallusol eraill. Mae'r amddiffynfa hwn yn berthnasol i weithiau sydd wedi'u cyhoeddi a gweithiau sydd ddim wedi'u cyhoeddi.

Mae deddfau hawlfaraint yr U.D.A. yn cynnwys y canlynol:

  • Llenyddol
  • Cerddorol
  • Dramatig
  • Pantomeim a choreograffi
  • Darluniadol, graffeg a cherfluniau
  • Gweithiau clyweled
  • Ffeiliau sain
  • Gweithiau deilladol (Derivative works)
  • Ailbobiad neu grynhoad (Compilations)
  • Gweithiau pensaernïol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. US Constitution, Article 1 section 8
  2. Gwefan ww.law.cornell.edu; adalwyd 01/07/2014