Planet
Cylchgrawn Cymreig a gyhoeddir pob chwarter yw Planet, "The Welsh Internationalist", sy'n ymdrin â'r celfyddydau, chwaraeon, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt, o afbwynt Cymreig. Cyhoeddir barddoniaeth a straeon byrion ym mhob rhifyn o'r cylchgrawn.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Sefydlwyd Planet fel cylchgrawn a gyhoeddwyd pob yn ail mis, gan Ned Thomas, a fu hefyd yn olygydd cyntaf y cylchgrawn, a cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Awst 1970. Dilynodd hyn benderfyniad ym 1967 i ddatganoli gweithrediad Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr yng nghymru i Gyngor Celfyddydau Cymru. Dywedodd Thomas fod gan gyfarwyddwr llenyddiaeth cyngor y celfyddydau ar y pryd, Meic Stephens, weledigaeth o greu canolfan cyhoeddi yng Nghymru, nad oedd wedi bodoli gynt.[1]
Ar noswyl Refferendwm datganoli i Gymru, 1979, gan ragweld plaidlais "na", penderfynnodd Thomas i ddod a'r cylchgrawn i ben gan y credodd fod y bleidlais yn arwydd o fethiant ideoleg y cylchgrawn. Perwadwyd ef i ail-lawnsio'r cylchgrawn ym 1985, gyda ariannu gwell a cyflogwyd John Barnie fel cynorthwyydd llawn amser cyn iddo ddod yn olygydd ym 1990. Olynwyd Barnie gan ei wraig, Helle Michelson, yn 2006. Dathlodd y cylchgrawn ei benblwydd yn 40 oed gyda cyhoeddiad ei 200fed rhifyn, cyn newid i ddod yn gylchgrawn chwarterol o dan arweiniaeth ei olygydd newydd, Jasmine Donahaye.[1]
Cyhoeddwyd yn wreiddiol o gartref Thomas a'i wraig Sarah Eskrine yn Llangeitho. Symudodd yn ddiweddarach i Aberystwyth.[2]
Golygyddion [golygu]
- 1970–1990 Ned Thomas
- 1990–2006 John Barnie
- 2006–2010 Helle Michelson
- 2010– Jasmine Donahaye
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 Planet magazine's 200th edition goes into orbit. BBC Mid Wales (11 Tachwedd 2010).
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru > Planet Papers. Archifau Cymru. Adalwyd ar 15 Mehefin 2011.