Hacio'r Iaith

Oddi ar Wicipedia
Hacio'r Iaith
Logo Hacio'r Iaith
Duncan Brown, golygydd Llên Natur yn dangos rhai o nodweddion y wefan yn ystod Hacio'r Iaith 2010.

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored a drefnir ar yr un ffurf a chynadleddau BarCamp.[1] Mae hyn yn golygu bod y gynhadledd am ddim, ac yn agored i unrhyw un fynychu i siarad am bwnc o'u dewis nhw.

Cynhaliwyd y cyntaf yn Aberystwyth ar y 30 Ionawr 2010. Trefnir y gynhadledd ar y cyd gan wirfoddolwyr trwy ddefnydd wiki. Ceir trafodaeth yn y gynhadledd am yr iaith Gymraeg, technoleg a'r rhyngrwyd.

Mae'r digwyddiad cychwynnol wedi esgor ar sawl digwyddiad llai o'r enw Hacio'r Iaith Bach a hefyd ar flog amlgyfranog.[2]

Gŵyl Dechnoleg Gymraeg ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012[golygu | golygu cod]

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 cynhaliwyd Gŵyl Dechnoleg Gymraeg y Maes, gyda lleoliad swyddogol ym mhabell Cefnlen tu cefn i'r Babell Lên. Gwahoddwyd criw Hacio'r Iaith i lenwi amserlen wythnos gyfan o weithgareddau.[3] Ymysg y gweithgareddau hyn cynhaliwyd cyflwyniadau amrywiol a gweithdai blogio, sut i greu apps, a sut i olygu'r Wicipedia Cymraeg. Fel rhan o hyn ac mewn ymdrech i hyrwyddo math o gyfryngau sifig i adrodd ar yr Eisteddfod, sefydlwyd gwefan o dan enw Blogwyr Bro a oedd yn agored i unrhyw un gyfrannu tuag ato.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Eva Ketley (25 Ionawr 2010). Welsh internet experts to meet. Daily Post. (Saesneg)
  2. Hen ddigwyddiadau Hacio'r Iaith ar hedyn.net[dolen marw]
  3. Gwyl dechnoleg Gymraeg i'w chynnal ar Faes y Brifwyl Archifwyd 2013-01-12 yn y Peiriant Wayback. o wefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
  4. Blog eisiau clywed barn eisteddfodwyr www.golwg360.com 4.8.12

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]