Les Barker

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Les Barker yng Ngŵyl Ely 2010.
Les Barker (chwith) mewn gweithdy Wicipedia Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012.

Bardd Saesneg-Cymraeg a chyfansoddwr caneuon yw Les Barker (ganwyd 30 Ionawr 1947). Mae’n adnabyddus am ei farddoniaeth ddigri a'i barodïau o ganeuon poblogaidd, er ei fod hefyd wedi cynhyrchu llawer o waith dwys a difrifol. Hyd yn hyn (2012) mae wedi cyhoeddi 76 cyfrol o farddoniaeth Saesneg.[1]

Yn wreiddiol o Fanceinion fe astudiodd i fod yn gyfrifydd cyn darganfod ei ddawn lenyddol. I ddechrau roedd yn mynd o gwmpas lleoliadau cerddoriaeth werin ac yn perfformio ar ei ben ei hun, ac yna ffurfiodd The Mrs Ackroyd Band (a enwyd ar ôl ei frithgi, Mrs Ackroyd).

Yn ogystal ag ym Mhrydain, mae hefyd wedi teithio i berfformio yn Hong Kong, Awstralia, Seland Newydd, Unol Daleithiau America a Chanada.

Mae wedi cyhoeddi bron i 80 o lyfrau ac wedi rhyddau (un ai fel perfformiwr unigol neu gyda'i fand) 20 o albymau.

Y Gymraeg[golygu]

Ers symud i fyw yng Nghymru, mae Barker wedi dysgu Cymraeg ac yn barddoni'n Gymraeg, yn cystadlu mewn eisteddfodau ac wedi cyhoeddi cyfieithiad Saesneg o waith Daniel Owen.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Llenyddiaeth Cymru; adalwyd 05/12/2012
  2. LES BARKER WINS WELSH AWARD Gwefan BBC Radio 2 (21/05/08) (Saesneg)
  3. Fireside Tales:Datganiad i’r wasg Brown Cow Publishing (10.5.2011)

Dolenni allanol[golygu]