Ynysoedd Kerguelen

Oddi ar Wicipedia
Ynysoedd Kerguelen
Mathynysfor, district of the French Southern and Antarctic Lands, grŵp o ynysoedd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlYves Joseph de Kerguelen de Trémarec Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTiroedd Deheuol ac Antarctig Ffrainc, French Southern and Antarctic Lands nature reserve Edit this on Wikidata
SirTiroedd Deheuol ac Antarctig Ffrainc Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Arwynebedd7,215 km², 39,708,000 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr409 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.25°S 69.17°E, 49.25°S 69.1667°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Ynysoedd yn rhan ddeheuol Cefnfor India sy'n un o diriogaethau tramor Ffrainc yw Ynysoedd Kerguelen (Ffrangeg: Îles Kerguelen, ar un adeg îles de la Désolation). Maent yn ffurfio un o bump ardal Tiriogaethau deheuol ac Antarctig Ffrainc (Terres australes et antarctiques françaises) (TAAF). Y brif ynys yw Grande-Terre des Kerguelen, sy'n ynys trydydd-fwyaf Ffrainc. Nid oes poblogaeth barhaol ar yr ynysoedd.

Lleoliad Ynysoedd Kerguelen

Darganfyddwyd yr ynysoedd yn 1772 gan Yves Joseph de Kerguelen de Trémarec. Hyd ar ddechrau'r 20fed ganrif, defnyddid hwy gan helwyr morloi a morfilod. Gostyngodd niferoedd y rhain yn fawr oherwydd gor-hela, ond maent yn awr wedi cynyddu eto. Ceir hefyd lawer o adar y môr yn nythu yma, yn cynnwys yr albatros. Ers 1950, mae Ffrainc wedi cynnal gorsaf wyddonol Port-aux-Français yma, gyda staff o 60 hyd 100 o bobl.

Mae Kerguelen hefyd yn deitl cerdd gan Waldo Williams.

Rhan ddeheuol Rhewlif Cook