Tiriogaethau tramor Ffrainc
Oddi ar Wicipedia
Term a ddefnyddir am y rhannau hynny o Ffrainc sydd tros y môr yw Tiriogaethau tramor Ffrainc (Ffrangeg: France d'outre-mer). Yn Ffrangeg, fe'u talfyrrir yn aml i DOM-TOM, sy'n dynodi Département d'outre-mer - Territoire d'outre-mer. Yn 2009, roedd gan y rhannau hyn boblogaeth o 2,624,505.
Ceir sawl categori o diriogaethau:
Départements a régions [golygu]
Mae statws y rhain yr un fath ag unrhyw département a région arall yn Ffrainc, ac yn rhan o Ffrainc a'r Undeb Ewropeaidd, er bod rhai rheolau arbennig gan yr UE.
- Guadeloupe (971) ;
- Martinique (972) ;
- Guyane (973) ;
- Réunion (974) .
Collectivité d'outre-mer [golygu]
Mae union statws y tiriogaethau hyn yn amrywio. Maent yn cynnwys:
- Polynésie française (pays d'outre-mer)
- Saint-Pierre-et-Miquelon
- Wallis-et-Futuna
- Mayotte (collectivité départementale d'outre-mer)
- Saint-Martin
- Saint-Barthélemy
Eraill [golygu]
- Mae Caledonia Newydd yn cael ei hystyried fel tiriogaeth unigryw, heb fod ei statws wedi ei ddynodi'n fanwl yn gyfansoddiadol.
- Tiriogaethau deheuol ac Antarctig Ffrainc