Waldo Williams

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Waldo Williams yn heddychwr, yn grynwr, yn genedlaetholwr, yn sosialydd ac yn un o feirdd mwyaf Cymru'r ugeinfed ganrif (30 Medi 190420 Mai 1971). Un o'i gerddi enwocaf yw 'Mewn Dau Gae'.

Bywgraffiad[golygu]

Cafodd ei eni yn Hwlffordd, yn fab i J Edwal Williams, athro ysgolion cynradd a Chymro Cymraeg. Enw ei fam (cyn priodi) oedd Angharad Jones a Saesneg oedd ei hiaith hi. Mae'n werth nodi fod tad Waldo a'r Parch John Jenkins, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Hill Park, Hwlffordd, yn heddychwyr ac yn aelodau o'r Blaid Lafur Annibynnol.

Yr oedd yn saith oed yn dysgu Cymraeg pan symudodd y teulu i Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, 1911 - 1915 lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd. Yn 1915 daeth ei dad yn brifathro ar Yagol Brynconin, Llandisilio a daeth y teulu yn aelodau yn eglwys y Bedyddwyr Blaenconin lle yr oedd y Parch T J Michael yn weinidog ac yn heddychwr arall. Mynychodd Ysgol Ramadeg Arberth cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn 1926. Yn dilyn hyfforddiant fel athro bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro. Bu hefyd yn dysgu yng Ngogledd Cymru a Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos a drefnid gan Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol Aberystwyth.

Priododd yn 1941, ond bu hi farw yn 1943, a wnaeth e ddim priodi eilwaith

Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhyddhawyd ef yn ddiamod yn dilyn ei ddatganiad ger bron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin, 12 Chwefror, 1942.[1]

Yr oedd yn teimlo mor gryf yn erbyn Rhyfel Corea nes iddo wrthod talu'r dreth incwm, ac fe'i carcharwyd am hynny ddechrau y 1960au. Roedd yn ymwybodol iawn o feirniadaeth Mohandas Gandhi ar y llenor Rabindranath Tagore pan ddywedodd wrth Tagore 'rhowch i ni weithredoedd nid geiriau.' Gofynwyd i Waldo a oedd wedi ystyried cyhoeddi ei gerddi. Dyma ei ateb i D.J. Williams "Yr oeddwn i'n teimlo y byddai eu cael gyda'i gilydd mewn llyfr yn ofnadwy, yn rhagrithiol ac yn annioddefol heb fy mod yn gwneud ymdrech i wneud rhywbeth heblaw canu am y peth hwn.[2]

Safodd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1959.

Mae carreg goffa i Waldo ar y comin ger Mynachlog-ddu.

Yn 2008 cyhoeddwyd nifer o gerddi Saesneg y bardd, cyfieithiadau o sonedau T. H. Parry-Williams, ar www.barddoniaeth.com.

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith Waldo[golygu]

  • Cofio (cyfres Y Ford Gron)
  • Brenhiniaeth a Brawdoliaeth. Darlith yng Nghapel y Tabernacl, Abergwaun - 9 Mai 1956. Cyhoeddwyd y nodiadau yn Seren Gomer Haf 1956.
  • 'Mewn Dau Gae'. Baner ac Amserau Cymru. 13 Mehefin 1956.
  • 'Paham y Gwrthodais dalu treth yr incwm'. Baner ac Amserau Cymru 20 Mehefin 1956
  • Paham yr wyf yn Grynwr. Sgwrs Radio 15 Gorffennaf 1956 a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ar 25 Mehefin 1971 yn Seren Cymru.
  • Dail Pren (1956)
  • Cerddi'r Plant (1970). Ar y cyd ag E. Llwyd Williams.
  • 'Rhyfel a'r Wladwriaeth'. Erthygl yn Y Faner (1956).
  • 'Barddoniaeth T E Nicholas'. Y Cardi, Rhif 6 , Gŵyl Ddewi 1970.
  • Old Farm House. Cyfieithiad Saesneg o Hen Dŷ Ffarm gan D.J. Williams.

Astudiaethau[golygu]

  • 'Y Traethodydd' rhifyn Coffa Waldo (Hydref 1971)
  • 'Cyfres y Meistri': Waldo Williams (1981) golygydd Robert Rhys, Gwasg Christopher Davies
  • Cyfres 'Llên y Llenor': Waldo Williams (1985) gan Ned Thomas
  • Cyfres 'Bro a Bywyd': Waldo Williams (1996) golygydd James Nicholas, Cyhoeddiadau Barddas
  • Stori Waldo Williams Bardd Heddwch Alan Llwyd 2010 Cyhoeddiadau Barddas

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Datganiad Waldo y Traethodydd hydref 1971.
  2. Jâms Nicholas Darlith Goffa Lewis Valentine - Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru, 2000. Tud 12/13