Anifail anwes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cath a chi, yr anifeiliaid anwes mwyaf poblogaidd.

Anifail anwes yw anifail a gedwir am gwmni a mwynhad yn hytrach nag anifeiliaid labordy, anifeiliaid fferm, anifeiliaid gweithio neu anifeiliaid chwaraeon a gedwir am resymau economaidd. Mae'r anifeiliaid anwes mwyaf poblogaidd yn chwaraegar a theyrngarol, gydag ymddangosiad deniadol, fel arfer. Mae'n bosib fod anifeiliaid anwes hefyd yn elwa eu perchnogion o ran iechyd.[1] Fe ddangoswyd bod cadw anifeiliaid yn rhyddhau straen i bobl sy'n hoffi cael anifeiliaid o amgylch y tŷ.

Yr anifeiliaid anwes mwyaf poblogaidd yw cathod, cŵn, cwningod, moch cwta a bochdewion.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Buddion iechyd anifeiliaid anwes". US Government National Institute of Health. http://consensus.nih.gov/1987/1987HealthBenefitsPetsta003html.htm. Adalwyd 2006-12-25. 
Tiger head template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am anifail. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am anifail anwes
yn Wiciadur.