Copteg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arysgrif Gopteg (3edd ganrif)

Un o ieithoedd Hamito-Semitaidd yw Copteg. Fe'i sieredid yn yr Aifft o'r cyfnod Cristnogol cynnar hyd yr 8fed ganrif.

Yn ieithyddol ystyrir y Gopteg fel ffurf olaf Hen Eiffteg. Arferid ei hysgrifennu mewn gwyddor sy'n gyfuniad o lythrennau yr Wyddor Roeg gyda saith llythyren Ddemotig ychwanegol.

Tafodiethoedd[golygu]

Roedd i'r Gopteg chwe thafodiaith. Yn yr Aifft Uwch (de'r wlad) y dafodiaith Sahideg oedd y brif ffurf o'r 5fed ganrif ymlaen. Yn yr Aifft Is defnyddid y dafodiaith Bohaireg fel iaith eglwysig gan Gristnogion yr Eglwys Goptaidd.

Llenyddiaeth[golygu]

Ceir llenyddiaeth ddiddorol yn y Gopteg (Bohaireg yn bennaf) o gyfieithiadau o destunau ysgythurol Groeg ynghyd â thestunau iaith Gopteg gwreiddiol sy'n adlewyrchu dylanwad Gnostigiaeth a Manichaeiaeth ar yr eglwys cynnar.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Bibliography[golygu]

  • Wolfgang Kosack: Lehrbuch des Koptischen.Teil I:Koptische Grammatik.Teil II:Koptische Lesestücke, Graz 1974.
  • Wolfgang Kosack: Der koptische Heiligenkalender. Deutsch - Koptisch - Arabisch nach den besten Quellen neu bearbeitet und vollständig herausgegeben mit Index Sanctorum koptischer Heiliger, Index der Namen auf Koptisch, Koptische Patriarchenliste, Geografische Liste. Christoph Brunner, Berlin 2012, ISBN 978-3-9524018-4-2.
  • Wolfgang Kosack: Schenute von Atripe De judicio finale. Papyruskodex 63000.IV im Museo Egizio di Torino. Einleitung, Textbearbeitung und Übersetzung herausgegeben von Wolfgang Kosack. Christoph Brunner, Berlin 2013, ISBN 978-3-9524018-5-9.
  • Wolfgang Kosack: Koptisches Handlexikon des Bohairischen. Koptisch - Deutsch - Arabisch. Verlag Christoph Brunner, Basel 2013, ISBN 978-3-9524018-9-7.