Asid

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Asid hydroclorig yn adweithio gydag amonia i greu mwg gwyn (amoniwm clorid).

Mae asid yn aml yn cael ei gynrychioli gyda'r fformiwla HA [H+A], ac fel arfer yn cael ei ddiffinio fel cyfansoddyn cemegol, sydd, o'i hydoddi mewn dŵr yn rhoi hylif gyda dwysedd nifer o ionau hydrogen uwch na dŵr pur h.y. gyda pH o lai na 7.0. Johannes Nicolaus Brønsted a Martin Lowry ffurfiodd y diffiniad hwn. Dyma'r diffiniad sy'n cael ei dderbyn fynychaf drwy'r byd ond mae llawer iawn o ddiffiniadau eraill ar gael. Mae'r ïon hydrogen, mewn gwirionedd, yn cael ei roi i gyfansoddyn arall (a elwir yn gyfansoddyn bas).

Mae asid asetig mewn finegr a'r asid swlffwrig mewn batri ceir yn enghreifftiau o asid. O'r gair Lladin acidus sef 'sur' y daw'r gair asid. Yr hen air Cymraeg am 'acid drops' ydy 'losin sur', er enghraifft. Gall asid fod yn hylif, nwy neu'n solid.

Cynnwys

[golygu] Nodweddion asid

Dyma nodweddion asid yn ôl diffiniad Bronsted-Lowry o asid:

  • Mae asid, fel arfer, yn blasu'n sur (nid chwerw nac unrhyw flas arall)
  • Mae asid cryf yn rhoi teimlad o bigo yn y ceg.
  • Mae'n troi lliw dangosydd pH yn goch (litmws).
  • Adweithia gyda metalau gan gynhyrchu halen metal a hydrogen.
  • Adweithia gyda metal carbonad i greu dŵr, CO2 a halen.
  • Adweithia gyda bas i gynhyrchu halen a dŵr.
  • Adweithia gyda metal ocsid i gynhyrchu halen a dŵr.
  • Mae'n dargludo trydan
  • Mae asid hefyd yn cynhyrchu ionau solofoniwm e.e. ionau ocsoniwm (H3O+) mewn dŵr.

[golygu] Defnyddio asid

Mae toreth o ddefnyddiau gwahanol i asid gan gynnwys tynnu rhwd i ffwrdd o fetal, neu mewn batri gwlyb e.e. defnyddir asid swlffwrig mewn batri car.

Fe ddefnyddir asidau cryf wrth gynhyrchu mwynau megis gwrtaith ffosffad drwy roi asid swlffwrig ar fwynau ffosffad; enghraifft arall yw cynhyrchu sinc drwy roi sinc ocsid mewn asid swlffwrig ac yna puro'r hylif.

Yn y diwydiant cemeg fe ddefnyddir asidau (mewn adweithiau) i greu halenau. Er enghraifft, mae asid nitrig yn adweithio gydag amonia i gynhyrchu nitrad a ddefnyddir gan y ffermwr fel gwrtaith. Dro arall, cymysgir asid carbocsylig gydag alcohol i greu ester.

Mae asidau'n gatalyddion da, hefyd. Er enghraifft, defnyddir llawer iawn o asid swlffwrig i greu gasolin. Mae'r asidau cryf megis asidau swlffwrig, ffosfforig a hydroclorig yn arbennig o dda am dynnu dŵr (neu 'dadhydradad' i ddefnyddio gair a fathwyd yn ddiweddar; 'dehydration' yn Saesneg).

Ychwanegir asidau hefyd mewn diodydd ysgafn gan eu bont yn newid y blas yn aruthrol ac yn hirhau oes y diodydd; defnyddir asid ffosfforig mewn poteliad o cola, a'i debyg.

Ceir llawer o asid sitrig mewn lemwn

[golygu] Rhai asidau cyffredin

[golygu] Asid cryf

(gan gychwyn o'r cryfaf i'r gwanaf)

Mae rhai cemegwyr yn cynnwys asid clorig, (HClO3), Asid bromig (HBrO3), asid perbromig (HBrO4), asid iodic (HIO3), ac asid periodig (HIO4) fel asidau cryf; ond ni chânt eu derbyn yn gyffredinol.


[golygu] Swperasid


[golygu] Asid gwan

[golygu] Dosbarthu yn ôl eu priodweddau

[golygu] Asid mwynol ('Mineral acids')

Dyma asid sydd wedi'i gynhyrchu allan o gyfansoddion anorganaidd. Nid yw'n cynnwys atomau carbon ac mae pob asid mwynol yn rhyddhau ïonau hydrogen pan mae'n hydoddi mewn dŵr.


[golygu] Asidau swlffwrig

  • Asid Methaneswlffonig (neu asid mesylig acid) (MeSO3H)
  • Asid Ethaneswlffonig (neu asid esylig) (EtSO3H)
  • Asid Benzeneswlffonig (neu besylig acid) (PhSO3H)
  • Asid Tolueneswlffonig (neu asid tosylig neu (C6H4(CH3) (SO3H))


[golygu] Asid carbocsylig (neu organig)

Cyfansoddyn organaidd yw asid organig, gyda phriodweddau asidig. Yr asidau carbocsilig (sydd a'r fformiwla: -C(=O)OH, a sgwennir fel -COOH neu -CO2H fynychaf). Mae'r asidau swlffonig - sy'n cynnwys y grwp -SO2OH - yn asidau cryfach. Mae asidau carbocsylig yn asidau Brønsted-Lowry gan eu bod yn rhyddhau proton. Mae halenau ac anionau asidau carbocsylig yn cael eu galw yn carbocsiladau ("carbocxylates").

Y mathau symlaf o'r asidau hyn yw'r asidau alcanoig (R-COOH) gyda R yn hydrogen neu yn grwp alkyl. Gall y cyfansoddyn gynnwys dau neu ragor o grwpiau asid carbolig ym mhob moleciwl.


[golygu] Asidau Finylogous carbocsylig

("Vinylogous carboxylic acids")

[golygu] Dolenau Allanol

Offer personol