Ieithoedd Nilo-Saharaidd

Oddi ar Wicipedia
Map yn dangos dosbarthiad teuluoedd iaith Affricanaidd. Ieithoedd Nilo-Saharaidd mewn melyn.

Teulu ieithyddol o ieithoedd a siaredir yn bennaf yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Affrica yw'r Ieithoedd Nilo-Saharaidd. Credir fod y teulu yn cynnwys tua 200 o ieithoedd, gyda chyfanswm o tua 35 miliwn o siaradwyr. Mae dosbarthiad y teulu yn ymestyn o Algeria a Mali yn y gogledd-orllewin hyd Benin, Nigeria, Swdan a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo yn y de ac o'r Aifft hyd Cenia a Tansanïa (af eithrio Somalia) yn y dwyrain.

Prif ieithoedd[golygu | golygu cod]

  1. Luo (3.5 hyd 4 miliwn o siaradwyr), yn Cenia, dwyrain Wganda hyd Tansanïa, iaith y grŵp ethnig Luo.
  2. Kanuri (3.3 hyd 6 miliwn o siaradwyr), iaith y grŵp ethnig Kanuri, o Niger hyd ogledd-ddwyrain Nigeria.
  3. Dinka (1.4 hyd 2 filiwn o siaradwyr), iaith y grŵp ethnig Dinka yn ne Swdan.
  4. Lango (tua 1 miliwn o siardwyr), yng nghanolbarth Wganda.
  5. Nuer (805,000 o siaradwyr), iaith y grŵp ethnig Nuer, yn ne Swdan.